Cyngor Llyfrau Cymru
Owain Glyn Dŵr - Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru
Owain Glyn Dŵr - Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Astudiaeth feistrolgar o safle Owain Glyn Dŵr fel gwladweinydd uchelgeisiol ac arwr cenedlaethol, ynghyd â'i gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru ar droad y 15fed ganrif, gan y diweddar R. R. Davies, a oedd yn awdurdod ar y pwnc. 7 ffotograff du-a-gwyn a 3 map. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2002.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A masterful study of the status of Owain Glyn Dwr as an ambitious statesman and national hero together with his contribution to Welsh politics at the turn of the 15th century, written by the late R. R. Davies, an authority on the subject. 7 black-and white photographs and 3 maps. Reprint; first published in 2002.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862436254
- Gwales Code
- gwales.com.9780862436254
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Owain Glyn Dŵr - Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru
- Awdur / Author
- Davies, R. R.
- Current Price ex VAT
- £6.95
- Current Price inc VAT
- £6.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-03-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: 500-1536 (yn Gymraeg) | EN: 500-1536 (in Welsh)
- DEWEY code
- National Library of Wales Dewey Code
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma hi or diwedd, ac mewn dim ond ychydig dros 130 tudalen dymar nofel Gymraeg ganoloesol fwyaf gafaelgar, yn barod iw haddasu yn ffilm ar Glyndŵr. Gydar ymgyrch am gofeb or marchog mewn llawn arfogaeth yng Nghorwen, y murlun yn Rhuthun yn faner swyddogol yn y Cynulliad ar Fedi 16, maer hanes ar chwedl ar gynnydd. Fel sawl cyfansoddwr ddaeth yn saff drwy ryferthwy symffonïau cymhleth at bedwarawd llinynnol harmonig ar themâu blaenorol, dyma brif ysgolhaig hanesyddiaeth adolygol ganoloesol y Dywysogaeth o fewn y Deyrnas yn cyrraedd y stori syml. Eithr twyllodrus o syml. Yma y ceir yr esboniad ar ddigwyddiadaur dehongliad o dystiolaeth ar angen amdani yn y dychymyg. Ffynonellau hanesyddol dogfennol, chwedlonol, barddonol, y traddodiadau chwedlonol llafar, a phroffwydoliaeth wleidyddol yn gweu drwyi gilydd mewn naratif ddarllenadwy syn debycach i nofel antur nag i lyfr hanes. Ond wedir cyfan dyna yw hanes, naratif ddychmygol am y gorffennol, nid adroddiad or gorffennol ei hun. Anghenraid yn y presennol ywr creadigaethau dychmygus a ddaw yn 'fyw' or gorffennol' pan fo angen codir ysbryd (yn nau ystyr yr ymadrodd yna). Ond dyna fel yr oedd hanes a hanesyddiaeth erioed. Ennyd o ddallineb Ôl-Oleuedigaethol oedd tybied fod hanes yn wyddor i osod y gorffennol mewn trefn amseryddol. Nid cofnod ond sôn fu hanes erioed. Dyna yw 'dweud yr hanes; stori yw hi, 'chwedl yw hi/ ai chadw i wlad/ yn rhoddi ireiddiad/ on mewn ac yn ein mysg,' fel y canodd Euros Bowen yn y gyfrol Myfyrion . Ystyr wreiddiol (beth bynnag yw ystyr hynny) y gair 'hanes' yw cyfrinach neu ddirgelwch y sibrwd hwnnw am ryw neges breifat o ryw orffennol pell Gwyddelig neu Gernywaidd. Beth allai weddun well fel 'disgrifiad' o 'hanes' ffigwr or enw 'Glyndŵr'? 'Cyfrinach y gwir arwr yw ei fod yn codi uwchlaw ei gyfnod ei hun, ai fod mewn gair yn draws-oesol yn hytrach nag yn hanesyddol yn unig,' ysgrifenna Rees Davies ar dudalen olaf ei gyfrol. 'Dyna orchest Owain Glyndŵr; daeth yn symbol o freuddwyd y Cymry, y gobaith yn nwfn eu calon y gallent ennill ryw ddydd yr hawl i fyw mewn gwlad annibynnol yn eu llywodraethu eu hunain.' Ond syniad traws hanesyddol yw hynna hefyd ond odid. Ac onid ywr traws-hanesyddol hithau yn ddarostyngedig i ofynion yr hanesyddol? Ond ta waeth am hynny. Darllenais innaur nofel hon o glawr i glawr ar un eisteddiad. Dychmygais holl olygfeydd y fersiwn ffilm, heblawr diweddglo. A hynny am nad oes un. Oherwydd heb ddiweddglo y mae pob chwedl dda. Dim ond hanesydd dwfn ei ysgolheictod ai hanesyddiaeth allai fynd y tu hwnt iw ysgolheictod i ysgrifennu nofel fel hon.
Share
