Cyngor Llyfrau Cymru
Parti Priodas
Parti Priodas
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Drama gomedi i ddau actor gan Gruffudd Owen. Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd ac Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau wrth ddychwelyd i Lŷn ar gyfer diwrnod mawr Dafydd a Samantha. Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed. Canllaw Oed: 16+
Disgrifiad Saesneg / English Description
Comedy drama for two actors by Gruffudd Owen. Lowri's determined to survive her brother's wedding day while Idris misses his old best friend as he comes back to Llŷn for Dafydd and Samantha's big day. Contains strong language and adult themes. Age Guidance: 16+
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781835390061
- Gwales Code
- gwales.com.9781835390061
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Parti Priodas
- Awdur / Author
- Owen, Gruffudd
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-04-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Sebra
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 149 × 210 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Pleser oedd cael ailymweld â Parti Priodas gan Gruffudd Owen, wedi i mi weld perfformiad ohoni eisoes yn Eisteddfod Boduan 2023. Mae darllen drama, wrth reswm, yn brofiad hollol wahanol i’w gwylio ar y llwyfan, yn enwedig gyda pherfformiadau Mared Llywelyn a Mark Henry Davies, a chyfarwyddo Steffan Donnelly yn aros yn y cof ymhell ar ôl i'r llen gau. Hyfryd, felly, oedd cael profiad cyflawn yma, lle mae gweledigaeth y dramodydd yn glir mewn llyfr sydd yn llwyddo i sefyll ar draed ei hun. Drama gomedi yw hon sy’n dilyn Lowri, chwaer Dafydd y priodfab, ac Idris ei ffrind gorau (“wel, ffrind hynaf”) wrth i’r briodas fawr eu gorfodi i wynebu gwirioneddau am eu bywydau ynghanol gwledd o areithiau gwael, perthnasau meddw a chocên hogiau’r clwb hwylio. Mae’r ddrama yn symud ar garlam, gyda nifer o olygfeydd byr yn cynnig sbin ar wahanol ystrydebau priodasau ond sy’n llwyddo hefyd i wthio’r stori yn ei blaen ac adeiladu i greu darlun cyfoethog o’r ddau brif gymeriad. Mae’r hiwmor yn drwch drwy bob tudalen, y cymeriadau eilradd yn lliwgar a ffraeth a’r ddeialog naturiol chwareus yn llifo. Yn wir, o gysidro mai dau actor sydd yn perfformio’r holl gymeriadau eilradd yn y cynhyrchiad llwyfan, roedd darllen y ddrama yn cynnig profiad gwahanol iawn o ddod i adnabod y cymeriadau hyn. Mae gallu’r awdur i droi golygfa yn gyfan gwbl ar sail un gair yn fedrus ac yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Mae’r sgript yn orlawn o one-liners sydd yn aros ar y cof, a beryg mai anodd bydd edrych ar ‘Jî ceffyl bach’ yn yr un ffordd byth eto. Ond mae mwy i’r ddrama hon na chwerthin yn unig. Mae’r briodas yn codi cwestiynau anodd i Idris ynglŷn â’i ddibyniaeth ar alcohol a’i unigrwydd, tra bod Lowri, sydd wedi bod yn rhedeg fferm y teulu gyda’i thad, yn gweld y briodas “mixed marriage” rhwng ei brawd a Saesnes o’r enw Samantha fel enghraifft arall o sut mae ei byd Cymraeg ym Mhen Llŷn yn cael ei erydu gan fewnfudwyr o dros y ffin. Wrth i straeon Lowri ac Idris blethu trwy ddefodau’r dydd, o’r paratoi cyn y briodas hyd at anhrefn y parti nos, mae’r ddrama yn mynd â’r darllenydd ar siwrne sy’n llwyddo i ymchwilio nifer o themâu dwys a phynciau difrifol a chadw ysgafnder a hiwmor ar yr un pryd. Dyma ddrama hawdd i’w darllen a haws fyth i’w mwynhau, a dyma gymeriadau a themâu fydd yn aros yn y cof. Yn sicr mae hon yn gyfrol i’w thrysori, boed y darllenydd yn awyddus i ail-fyw’r profiad theatrig neu am fwynhau’r parti am y tro cyntaf rhwng dau glawr.
Share
