Cyngor Llyfrau Cymru
Pedair Cainc y Mabinogi
Pedair Cainc y Mabinogi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a'r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae'r chwedlau wedi para cyhyd am eu bod yn dal i allu cydio yn y dychmyg â'u hud a lledrith, eu hantur, eu rhamant a'u rhyfeddodau unigryw. Argraffiad clawr meddal.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A luxurious edition in paperback. The Mabinogi are the oldest and most famous legends in Wales. First written down around eight hundred years ago, they were being told for many years before that. Join us and explore these captivating stories with their unique mix of magic, romance, adventure, giants, wars and wizards.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849670234
- Gwales Code
- gwales.com.9781849670234
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Pedair Cainc y Mabinogi
- Awdur / Author
- Lewis, Siân
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-07-06
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Darlunydd / Illustrator
- LeBlond, Valériane
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 220 × 220 mm; depth 8.4 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â Phedair Cainc y Mabinogi – rhai ohonom, o bosib, wedi gorfod eu hastudio'n fanwl mewn Cymraeg Canol, ac eraill ohonom wedi cael bras syniad o'r straeon ar ôl eu darllen mewn llyfrau plant. Wel, dyma lyfr sy'n cynnwys rhywbeth yn y canol – addasiad swmpus o'r pedair stori. Mae'r llyfr yn addas i blant hŷn ac oedolion. Mae ynddo dros 120 o dudalennau ac y mae hynny'n rhoi syniad i chi o'r manylder a geir yma. Mae'r llyfr clawr caled wedi cael ei gyflwyno mewn diwyg glân, hawdd ei ddarllen ond yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn gwbl atyniadol yw'r lluniau gan yr artist Valériane Leblond. Ar ddechrau'r gyfrol ceir llun o bawb ym mhob cainc gydag eglurhad pwy yw pwy. Ceir hefyd fapiau o Gymru'n dangos lle yn union mae'r mannau gwahanol a enwir yn y ceinciau. Dyma lyfr, heb os, sy'n haeddu bod yn hosan pob plentyn y Nadolig hwn. Bydd ei ddarllen yn rhoi cyflwyniad penigamp i rai o brif gymeriadau ein llên i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Mae'r awdur wedi dal naws y ceinciau i'r dim – eu tristwch a'u hiwmor, ac mae'r dweud mewn mannau yn hyfryd o gynnil a diwastraff. Mi ellid ei ddarllen dro ar ôl tro a chael pleser pur yn byseddu'r tudalennau cain.
Share
