Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Pen Dafad

Pen Dafad

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd o'r nofel fer ddoniol a hynod boblogaidd am fachgen sy'n newid i fod yn ddafad bob nos. Sut all Dewi, gyda chymorth ei ffrind Menna sydd ynghanol ei helbulon ei hun, lwyddo i dorri'r felltith, a byw bywyd fel bachgen ysgol arferol?

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new edition of the hilarious and hugely popular short novel about a boy who changes into a sheep every night. How can Dewi, with the help of his friend Menna who has troubles of her own, break the curse, and live life like a normal schoolboy?

Archebu o flaen llaw

Os nad yw’r teitl hwn wedi’i gyhoeddi eto, gallwch ei archebu o flaen llaw. Byddwn yn dosbarthu eich eitem cyn gynted ag y bydd ar gael gan y cyflenwr ac wedi cyrraedd atom. Gall dyddiadau cyhoeddi newid.

Pre-orders

If this title has not yet been published, you can order it in advance. We’ll dispatch it as soon as it is available from the supplier and has reached us. Publication dates may change.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800998742
Gwales Code
gwales.com.9781800998742
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Pen Dafad
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Not yet published
Availability Status (CY)
Heb ei gyhoeddi
Dyddiad argaeledd / Availability Date
2026-10-28
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2026-11-04
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
130 × 195 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Un o Ddolgellau yw Bethan Gwanas. Mae hi wedi cyhoeddi nifer lawer o nofelau i oedolion, dysgwyr Cymraeg, pobol ifanc a phlant, ac yn nofelydd profiadol a llwyddiannus sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Yn 2024, derbyniodd wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Mae'n rhan o'r podlediad Colli'r Plot.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Bethan Gwanas is from Dolgellau. She has published many novels for adults, Welsh learners, young people and children, and is an experienced and successful novelist who has won the Tir na n-Og award twice. In 2024, she received the Mary Vaughan Jones award for her contribution to children's and young people's literature. She also is part of the podcast Colli’r Plot.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma atgof o Teen Wolf , i’r sawl ohonom sy’n cofio, ar ei newydd wedd ac wedi’i adleoli yng nghefn gwlad Cymru! Druan â Dewi – yn hytrach na throi'n flaidd, a fyddai’n eithaf cŵl, mae’n troi’n ddafad bob nos. Mae’r sefyllfa hynod ryfedd yma yn dir ffrwythlon i’r awdur i arfer ei chrefft o adrodd stori ddigri yn ei ffordd ddihafal ei hun gyda’n harwr 13 oed yn treulio’r noson gyntaf yn bwyta planhigion tŷ ei fam ac yn deffro ar yr ail fore yn noethlymun yng nghanol cae! Wrth i Lowri, ei chwaer fach holl wybodus, ddarganfod ei gyfrinach, gwelir eu perthynas yn aeddfedu, wrth iddi geisio’i helpu i ddatrys y dirgelwch a dod o hyd i ffordd o atal y gweddnewid. Yn gyferbyniad i’r hiwmor, datblygir y stori trwy rai golygfeydd dramatig ac arswydus gyda thro annisgwyl a chyffrous yn y plot a chyffyrddiad o hud a rhamant tua’r diwedd. Adroddir y cyfan trwy gyfrwng arddull lafar, naturiol a rhugl. Mae rhywbeth at ddant pawb yma – rhieni sy’n darllen i’w plant, yn ogystal â darllenwyr ifanc brwd ac anfoddog fydd yn medru uniaethu â chefndir a chyd-destun teuluol ac amaethyddol y nofel hon.

View full details