Cyngor Llyfrau Cymru
Penillion Ach-A-Fi
Penillion Ach-A-Fi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd, diwygiedig o glasur mydr ac odl arall gan Roald Dahl am fwystfilod erchyll megis, mochyn sy'n bwyta ffermwyr, Croci-woc y crocodeil erchyll, llew sy'n llarpio plant, sgorpion-pigo-penolau, buwch hedegog sydd wrth ei bodd yn bomio pobol . . . a sawl creadur creulon arall y dylid eu hosgoi am eich bywyd!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A collection of (mainly) grisly beasts out for human blood, ranging from Crocky-Wock the crocodile to Sting-A-Ling the scorpion. Described in verse with all Dahl's usual gusto and illustrated in a suitably wicked style by Quentin Blake. WARNING! This book contains wickedly funny verse, prickly surprises and the most despicable creatures you could ever hope (not) to meet.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849673242
- Gwales Code
- gwales.com.9781849673242
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Penillion Ach-A-Fi
- Awdur / Author
- Dahl, Roald
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-04-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Williams, Gwynne
- Darlunydd / Illustrator
- Blake, Quentin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 127 × 190 mm; depth 13 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rhybudd! Gall y gyfrol hon achosi asennau poenus, ynghyd ag ymateb rhyfedd gan ddieithriaid os wyt ti’n ei darllen mewn man cyhoeddus. Gwylia rhag tagu wrth yfed dy baned, a bydd yn barod am lond bol o chwerthin! Does dim geiriau i ddisgrifio mor ddoniol – ac mor ddychrynllyd – yw Penillion Ach-A-Fi , addasiad Cymraeg o Dirty Beasts Roald Dahl. Camp a hanner yw addasu gwaith y llenor plant penigamp hwnnw, waeth beth fo'r iaith, ond mae’r addasiad modern hwn i’r Gymraeg gan Gwynne Williams yn arbennig iawn, a'i odlau gwreiddiol yn wledd i'r glust. Cawn siwrne ryfeddol i Ffrainc yng nghwmni llyffant anferth, pigau draenog yn sownd ym mhen-ôl un eneth fach, a phastai buwch yn glanio'n haeddiannol ar ben ‘rhyw lembo hanner Sais’. Mae’r penillion yn peri i ti chwerthin yn uchel, ac ar yr un pryd yn gwneud i ti amau fod yna anghenfil yn nillad y gwely. Wyt ti’n siŵr nad oes crocodeil yn y cwpwrdd? Yr hyn sy’n peri’r holl hwyl yw’r modd y mae’r anifeiliad lliwgar a llachar hyn wastad yn cael y llaw uchaf. Ac mae'r gyfrol ar gyfer darllenwyr o bob oed. Gall pob mab a merch, mam a thad a nain a thaid fynd i hwyliau wrth ei darllen, a gorau oll os oes modd darllen y cerddi'n uchel, er mwyn gwerthfawrogi clyfrwch yr odlau. Fel pob un o lyfrau Roald Dahl, dyma un i’w drysori. Os wyt yn teimlo’n drist ryw dro, da ti, dos ati i'w ddarllen. Bydd y cerddi'n sicr o godi calon a rhoi gwên ar dy wyneb, ond yn gwneud i ti fwrw golwg sydyn yng ngwaelod y cwpwrdd ac yn nillad y gwely, jest rhag ofn ...
Share
