Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Pluen

Pluen

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel i blant hŷn a phobl ifainc gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017. Adargraffiad, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2016.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel for older children and young adults by popular author Manon Steffan Ros, which follows Huw as he prepares his project on the Second World War during the summer holidays. Strange things happen as he begins to explore a secret relating to his grandmother's brother in this endearing story. Tir na n-Og Award Winner 2017. Reprint, first published in 2016.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784613181
Gwales Code
gwales.com.9781784613181
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Pluen
Awdur / Author
Ros, Manon Steffan
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-09-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
112 pages
Size
185 × 122 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma lyfr difyr gyda chlawr deniadol, ac ar ben hynny stori gymharol fer. Mae'n fy atgoffa o un o lyfrau cyfres Stori Sydyn, gan ei bod yn hawdd ei darllen. Mae’r penodau'n fachog ac yn sicr gellir darllen y gyfrol mewn diwrnod neu lai. Tybiaf y bydd hon yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr, gan i mi, yn fy mhedwardegau, ei mwynhau, a chredaf y bydd fy mhlant, sydd yn yr ysgol uwchradd, yn cael yr un boddhad, a hefyd y genhedlaeth hŷn a fyddai'n medru hel atgofion am y dyddiau a fu. Mae'r prif gymeriad, Huw, yn fachgen deuddeg oed hoffus a dymunol sy'n bwrw ati i gyflawni darn o waith cartref am yr Ail Ryfel Byd yn ystod gwyliau hir yr haf. Ceir yma ryw fath o stori antur sy'n trafod pwnc dyrys, sef salwch meddwl Nain. Mae’r cyfan yn cael ei bortreadu yn gelfydd a dealladwy. Elfen ychwanegol ydyw'r arallfyd, sy'n cael ei gyflwyno mewn ffordd hynod o fedrus trwy gymeriad Hywel, sef brawd Nain – nid oes hawl i’w drafod oherwydd yr hyn ddigwyddodd iddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r awdur wedi llwyddo i greu darluniau gwych o berthynas pobl ifainc â'i gilydd, a hefyd mae ei phortread o un genhedlaeth yn cwrdd â’r llall yn taro deuddeg. Mae yna elfen o godi cywilydd yma pan mae teulu Huw yn trafod agweddau ar ddirywiad meddwl Nain, gan sylweddoli bod salwch meddwl yn rhywbeth byw sy'n effeithio ar eu teulu hwy. Yn sicr byddwn yn argymell prynu'r llyfr yma, yn enwedig os oes un o'r pynciau ynddo yn apelio atoch. Ac os ydych yn ddarllenydd ofergoelus, byddwch yn sylwi ar arwyddocâd pob pluen wen.

View full details