Cyngor Llyfrau Cymru
Pobol Drws Nesaf
Pobol Drws Nesaf
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfuniad deniadol rhwng stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc. Cyhoeddodd y ddau Dafydd a Dad ar y cyd yn 2013. Mae'r stori yn ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy'n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2020.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This appealing combination of a charming story by Manon Steffan Ros and colourful artwork by Jac Jones brings the text alive to young readers. The authors co-published Dafydd a Dad in 2013. The story urges us not to criticise those who look and behave differently to us, and that we should respect everyone. Tir na n-Og Award Winner 2020.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784617233
- Gwales Code
- gwales.com.9781784617233
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Pobol Drws Nesaf
- Awdur / Author
- Ros, Manon Steffan
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-10-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Jones, Jac
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 200 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Manon yn un o awduresau mwyaf poblogaidd a mwyaf toreithiog Cymru ac mae wedi ennill llu o wobrau ar gfyer ei nofelau i'r arddegau, i oedolion ifanc ac oedolion, gan gynnwys Gwobr Tir na nOg sawl gwaith, ac enillodd y fedal Ryddiaith yn 2018 gyda'r clasur Llyfr Glas Nebo. mae'n byw yn Nhywyn, Meirionnydd, ond daw'n wreiddiol o Riwlas. Mae Jac Jones yn byw yn Llangefni ac mae'n arlunydd profiadol , sydd wedi gweithio ym myd arlunio llyfrau plant ers y 1970au. Mae wedi ennill Gwobr Tir na nOg 3 gwaith a chafodd ei anrhydeddu gyda Thlws Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i fyd llenyddiaeth plant yn 2012.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma stori am bobol ‘wahanol’ yn dod i fyw drws nesa i Tim a’i deulu. Maen nhw’n siarad, yn edrych ac yn bwyta bwyd gwahanol i bawb arall mae Tim yn eu hadnabod. Ond buan daw Tim a Bob drws nesa yn ffrindiau drwy chwarae a chwerthin gyda’i gilydd. Pan oedd rhai plant yn gas i Bob roedd Tim yn gofalu amdano a daw’r cymdogion newydd yn rhan o’r gymdeithas drwy siarad yr un iaith. Ac er eu bod nhw’n wahanol, does dim ots.
Share
