Cyngor Llyfrau Cymru
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel gyntaf y dramodydd a'r sgriptiwr llwyddiannus, Manon Eames, sy'n olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwfl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A powerful and emotive first novel which tells the story of an important event in Welsh history - the drowning of Cwm Tryweryn to provide a water supply for the city of Liverpool.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173051
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173051
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Porth y Byddar
- Awdur / Author
- Eames, Manon
- Current Price ex VAT
- £10.95
- Current Price inc VAT
- £10.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-11-13
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 368 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Er mai dyma nofel gyntaf yr actores a’r ddramodwraig adnabyddus Manon Eames, mae’i phrofiad o drin geiriau’n pefrio oddi ar bob tudalen yn y gyfrol sylweddol hon. Fel drama y gwelodd Porth y Byddar olau dydd gyntaf oll, a lwyfannwyd gan y Theatr Genedlaethol adeg Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2007, ond aeth Manon Eames i gloddio eilwaith yn ei bocseidiau o ffeiliau ymchwil, er mwyn dod â’i stori gerbron cynulleidfa newydd, ac ar ffurf newydd, lawnach. Hanes boddi Capel Celyn i greu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl yw sail y nofel. Yn hynny o beth, mae darllen y nofel ychydig fel gwylio’r ffilm Titanic – fe wyddom beth yw’r diweddglo diobaith, felly rhaid i’r awdur ein denu a’n cadw â rhywbeth amgenach na dirgelwch y ‘beth sy’n digwydd?’ neu’r ‘pwy wnaeth?’. Diolch i’w dawn wrth gymeriadu a llunio deialog all blesio’r glust feinaf, mae hi’n llwyddo. Mae llawer o gymeriadau’r nofel yn seiliedig ar bobl go iawn, pobl fu’n byw drwy’r cyfnod ofnadwy hwnnw tua diwedd y 1950au a dechrau’r 1960au, fel plismyn tre’r Bala, ffermwyr lleol, pobl sy’n gorfod gadael cartrefi’u cyndadau, a rhai o swyddogion a gweithwyr y Liverpool Corporation hefyd. Yn hytrach na darlunio llun du a gwyn o ‘Saeson Drwg Lerpwl / Cymry Da Meirion’, â llinellau clir y rhaniadau disgwyliedig hynny, crëir darlun cymhlethach, gan amlygu’r ffaith hanesyddol nad oedd y gwrthwynebiad i’r gronfa ddŵr yn unfrydol, o bell ffordd, hyd yn oed yn y Bala ei hun. Yn wir, sonnir yn y nofel am yr anfodlonrwydd a fodolai ar sawl lefel â’r ymgyrch i amddiffyn y gymdeithas rhag yr argae, a gwelwn gymaint o effaith a gafodd y gwrthdaro hwnnw ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion. Yn y manylion personol, yn y chwalfeydd unigol, y mae gwir drasiedi Tryweryn, a chrynhoir hyn yn ddirdynnol yn stori Rhiannon, y fam ifanc a gollodd ei mab bach pan foddodd mewn damwain bysgota. Claddwyd mab Rhiannon ym mynwent Capel Celyn, ond bellach rhaid iddi benderfynu a yw hi’n mynd i godi ei gorff o’r fynwent, a’i ailgladdu – gan orfod wynebu holl ysictod angladd arall, ynteu a yw hi’n gadael iddo orffwys yn y fynwent, gan beri y bydd yn boddi eilwaith yn nŵr oer yr afon. Fe’m cyffyrddwyd i’r byw ganddi. Dangosir ôl ymchwil maith a thrylwyr yn y gyfrol, ond nid ar draul creu stori ddirdynnol, afaelgar a darllenadwy. Dylai gael ei chyfieithu i’r Saesneg a’i gwneud yn ddarllen gorfodol yn ysgolion Lerpwl heddiw ... ac yn ysgolion Cymru hefyd. Cofiwn Dryweryn.
Share
