Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Powdwr Rhech!

Powdwr Rhech!

Regular price £3.95 GBP
Regular price Sale price £3.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel fywiog am helyntion criw o gefnogwyr tîm pêl-droed Manchester United wrth iddynt geisio mynychu gêm bêl-droed yn Old Trafford er iddynt gael eu gwahardd rhag gwneud hynny. Dilyniant i United!; i ddarllenwyr 12-15 oed. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2001.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A lively novel about the escapades of a crew of Manchester United football supporters as they try to go to a football game at Old Trafford although they have been banned from doing so. A sequel to United!; for 12-15 year-old readers. First published in 2001.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862435714
Gwales Code
gwales.com.9780862435714
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Powdwr Rhech!
Awdur / Author
Wyn, Eirug
Current Price ex VAT
£3.95
Current Price inc VAT
£3.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-07-06
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
DEWEY code
National Library of Wales Dewey Code

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dwi mor falch i mi ddarllen y nofel fer hon – mi chwarddais ac mi chwarddais wrth ei darllen. Er mai nofel am fechgyn ym mlwyddyn deuddeg ydi hi, ac wedi’i hanelu at bobl ifanc o’r un oedran, cefais i yn fy ugeiniau hwyr gryn flas arni! Dyma’r nofel berffaith i hogiau – yn llawn ffwtbol a Man U, cambihafio, rhechu, ysgol, cael y gorau ar athrawon a thrio deall merched. Y prif gymeriad hoffus yw Dingo – bachgen sy’n gymeriad a hanner, yn diddanu’i gyd-ddisgyblion ond sydd eto â chalon feddal tu hwnt. Ei arwyddair ef, fel ag y dywed yn un man, yw ‘Os na wnei di drio yn y byd ’ma, ei di i nunlla’. Ac arwr y darllenydd yn sicr yw Dingo, gyda’i ddyfeisgarwch, ei ffraethineb a’i galon feddal. Prawf o’m hoffter tuag ato oedd i’r chwerthin droi’n grefftus tu hwnt yn ddigon trist yn y diwedd pan gaiff ddamwain, ond deil yr hen Dingo drwy’r cyfan i fod yn arwr o’r iawn ryw. Dyma nofel sydd â’i stori atyniadol yn rhedeg yn hynod o esmwyth a chyflym, a’r iaith a ddefnyddir i’w chyfleu yn ddiddanwch ynddi ei hun Mae’r Gymraeg yn ei helfen yma, o ymadroddion slic megis ‘tyff tartan’ a ‘Mwnci Nel’, i chwarae gwych ar eiriau a phriod-ddulliau’r Gymraeg, megis: ‘Taro tra bo’r haearn yn boeth,’ meddai Wayne ... ‘Naci!’ atebodd Dingo fel bwlat. ‘Nid taro’r haearn tra bo’n boeth, ond gwneud yr haearn yn boeth drwy daro!’ A cheir yma hyd yn oed chwarae ar emynau Cymraeg: ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Cwstard wy na phwdin reis; Gofyn rwyf am sws fach sydyn, Hefo hogan Mistar Price...’ Efallai y bydd rhai rhieni ac athrawon yn cael trafferth derbyn ambell air coch yn y gyfrol, ond i mi mae’n ychwanegu’n hollol gredadwy at realaeth y nofel gan mai dyma’n wir sut y mae bechgyn ifainc yn siarad, a bydd yn fodd i helpu i ddenu’r darllenwyr.

View full details