Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Prawf Mot

Prawf Mot

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae perthynas y ci defaid doeth, Mot, a'i berchennog, Lea yn un agos a chariadus. Ond, tybed fedrith Mot ddefnyddio'i ddoethineb a'i sgiliau i ddewis y cariad perffaith i Lea? Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes gan un o awduron gorau Cymru sy'n trafod cariad, ffyddlondeb a heneiddio.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An uplifting, warm and humorous novel which explores the relationship between wise Welsh sheepdog Mot and his owner Lea. Will Mot help Lea find true love?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781913996536
Gwales Code
gwales.com.9781913996536
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Prawf Mot
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-02-26
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
296 pages
Size
130 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma gyfrol go wahanol, yn gyfuniad o hunangofiant a nofel. Cawn gan Bethan Gwanas stori Mot y ci a stori Lea a ddaeth yn berchennog iddo. Mae'r nofel yn glyfar iawn wrth ein harwain trwy gyfrwng lleisiau’r cymeriadau. Mae yna elfennau o ddigrifiwch eithriadol ac yna tristwch, felly mae'r pegynau'r llon a'r lleddf yn gwmni i'r darllenydd ar daith ddifyr dros ben. Roeddwn i, fel amryw o rai eraill, wedi camddehongli'r teitl, gan feddwl mai prawf MOT ydoedd. Disgwyliais droi at stori am ymbalfalu dan fonet y car neu am asesiad iechyd gan feddyg! Ond teitl clyfar iawn ydyw Prawf Mot , gan roi stori i ni am y ci Cymreig (a Chymraeg) llawn cymeriad wrth iddo asesu addasrwydd cariadon i'w berchennog! Mae arddull Bethan Gwanas yn wych, fel y disgwylid, ac fe fyddwn yn sicr yn dweud fod apêl y llyfr yn eang iawn ac yn hynod o addas i ddysgwyr oherwydd ei arddull rwydd, ddiymdrech, sy'n adlewyrchiad o wir dalent Bethan fel awdur. Mae yn y nofel gyfeiriadau modern a deallus tuag at hiliaeth y medrwn ni i gyd uniaethu â hwy, ac mae yna sawl foeswers yn ogystal. Mae gweld bywyd trwy lygaid y ci, yn enwedig y disgrifiad 'dwygoes', wedi gwneud i mi fod yn fwy ystyriol wrth weld cŵn pan af am dro. Mae'r darlun o gylch bywyd bob yr un ohonom yn wahanol, wrth reswm, ac yma, yn sicr, mae yna stori werth ei darllen. Mae gonestrwydd Mot yn annwyl a difyr iawn, a'i eiriau'n llawn doethineb: “... ond yn y bôn, rydan ni gwn yn tueddu i weld bywyd yn ddu a gwyn, yn caru ein ffrindiau a brathu’n gelynion os leciwch chi, ond mae pobl wastad yn gorfod gneud pethau’n gymhleth, yn cael trafferth caru mor llwyr â ni, ac yn cymysgu cariad ac atgasedd nes bod y du a’r gwyn wedi troi’n rhyw gawl llwyd, dryslyd.” Yn sicr, mae hon yn nofel gyfoes, ysgafn a llawn deallusrwydd. Mae'n werth ei phrynu!

View full details