Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Pwyth

Pwyth

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel newydd gan Haf Llewelyn. Mae'r stori'n troi o gwmpas cymeriadau tref fach lle mae rhai teuluoedd wedi ymgartrefu ers cenedlaethau ac eraill yn newydd-ddyfodiaid. Pan mae dieithryn yn ailymweld â'r dref, mae'n codi crachen o'r gorffennol. Nofel lle mae cyfrinachau'n cuddio dan yr wyneb a'r cymeriadau cryf yn dal eu gafael ar y darllenydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new novel by Haf Llewelyn that centres on the characters of a small, seaside towm where some residents have lived for many years while others are newly settled there. When a stranger revisits the the town, he rakes up old grievances. A novel with strong characters where many past secrets lie underneath the surface.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784617110
Gwales Code
gwales.com.9781784617110
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Pwyth
Awdur / Author
Llewelyn, Haf
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-10-03
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
194 × 131 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Pwy sy’n cofio beth, a sut mae digwyddiadau’n effeithio ar gymuned dros ddegawdau – os o gwbl? Dyma gwestiynau sy’n codi yn nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn, sy’n ein cyflwyno i rai o drigolion tref Glan Morfa – yn eu plith Heulwen, sy’n mwynhau cadw gwenyn a sylwi ar y mynd a dod yn nhai Ffridd Uchaf; ei chymydog ifanc yn y tŷ drws nesaf, a Robin, gofalwr yr ysgol leol sydd hefyd yn cadw golwg ar ei daid, Aneirin sydd, er ei fod yn ffwndro a’i gof yn drysu, yn cael ei flino gan atgofion sy’n codi ar ôl iddo feddwl iddo weld hen gydnabod yn dychwelyd i’r dref. Yn araf bach a fesul dipyn y down i wybod i rywbeth ddigwydd flynyddoedd yn ôl a effeithiodd yn ddifrifol ar rai o drigolion yr ardal, ond fel sy’n wir mewn bywyd, mae gan bob un atgofion gwahanol, a rhan wahanol o’r jig-so, felly does neb wir yn gwybod y stori lawn: yr un peth mae pawb yn ei gofio yw bod yna dro peryglus ar Ffordd y Dyffryn. Er mai cilolwg a gawn ar eu bywydau, cryfder y nofel yw’r cymeriadau y gall y darllenydd eu hadnabod fel pobl cig a gwaed. Yn ogystal â’r brith atgofion, rhannwn eu dyheadau a’u gofidiau mewnol, gyda phryderon cyfarwydd yn plethu’n gelfydd i’r stori; ni ŵyr Robin a ddylai aros yn nhref ei febyd mewn swydd ddigon ddiuchelgais, ynteu ehangu ei orwelion a mentro ymhellach, fel y gwnaeth ei fam; ac er bod Heulwen yn ddigon diddig gyda’i gwenyn, mae’n ymddangos bod ei chartref yn rhy bell i’w mab ddod i ymweld, hyd yn oed dros y Nadolig. Camp Haf Llewelyn yw ei bod yn cynnal ein diddordeb yn y cymeriadau hyn, er nad ydym yn siŵr o’u cymhellion, nac yn ryw hoff iawn o ambell un. Pan ddaw Craig a Delyth a’u mab Steff i fyw i’r dref, gwnaiff Craig ymdrech i ymdoddi i’r gymuned a helpu gyda’r tîm pêl-droed yr ieuenctid, ond mae’n ddigon amlwg bod rhywbeth o’i le, ac er nad oes dim yn cael ei ddweud yn agored na’i ddisgrifio ar dudalennau’r nofel, caiff ein dychymyg ei danio i lenwi’r bylchau. Gydag arddull gynnil a thelynegol, ceir darlun o gymuned sydd, er ei bod yn glos, hefyd yn frith o gyfrinachau sy’n llechu dan yr wyneb ac yn bygwth brigo. Y tu ôl i ddrysau caeedig mae’r ddrama’n digwydd, ac yng nghof rhai o’r trigolion, sy’n fodlon aros degawdau lawer i dalu’r pwyth, neu wneud yn iawn am y gorffennol.

View full details