Cyngor Llyfrau Cymru
Raffl
Raffl
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu . Ymestyn i'r un cyfeiriad yw'r nod yn y gyfrol hon.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In October 2021, Gwasg Carreg Gwalch published a volume of short stories by Aled: Tynnu . This volume is in the same vein.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279134
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279134
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Raffl
- Awdur / Author
- Williams, Aled Jones
- Current Price ex VAT
- £9.75
- Current Price inc VAT
- £9.75
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-05-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 200 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 11 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o'i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun , ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, 'Awelon', wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy'n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), hefyd i Silff Lyfrau 2018.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Meddai'r awdur: "Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi'n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu'r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi. Mae rhywbeth arall. Ers tro'n byd rwy'n ymwybodol fod rhai pethau a fu'n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristionogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw'r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai. Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod Cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda'r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi'r cyfan, mae'r newid hinsawdd yma'n barod. Mae pethau'n chwalu. O'r ymdeimlad yma o chwalfa y daw'r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy'n dyllau i gyd heb ruddin."
Share
