Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Rhwng Teifi, Dyfi a'r Don

Rhwng Teifi, Dyfi a'r Don

Regular price £12.95 GBP
Regular price Sale price £12.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae harddwch sir Ceredigion wedi ysbrydoli nifer o feirdd ar hyd y blynyddoedd, ac yn y gyfrol newydd hon ceir cerddi gan feirdd amrywiol sy'n canu am y sir ei hun: am leoedd, adeiladau a phobl a greodd y sir hynod hon a'i diwylliant cyfoethog. I gyd-fynd â'r farddoniaeth ceir ffotograffau o'r sir gan Iestyn Hughes, gyda'r cyfan wedi'i osod yn gelfydd i greu cyfrol apelgar iawn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The beauty of Ceredigion has inspired many poets over the years, and this new volume comprises poems by various poets who sing about the county: the locations, buildings and people that have formed this incredible county with its rich culture. Photographs by Iestyn Hughes complement the text, creating a very appealing volume.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584353
Gwales Code
gwales.com.9781911584353
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Rhwng Teifi, Dyfi a'r Don
Awdur / Author
Barddas, Cyhoeddiadau
Current Price ex VAT
£12.95
Current Price inc VAT
£12.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-03-22
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Editor
Reynolds, Idris
Darlunydd / Illustrator
Hughes, Iestyn
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
104 pages
Size
240 × 205 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad / hyd esgyrn ei chlogwyni, / hyd rydweli ffordd, / gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn / mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r / capel, yr un yw’r sgyrsiau / wrth y drws; yr un / yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear). Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad / hyd esgyrn ei chlogwyni, / hyd rydweli ffordd, / gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn / mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r / capel, yr un yw’r sgyrsiau / wrth y drws; yr un / yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear).

View full details