Cyngor Llyfrau Cymru
Ryc
Ryc
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel afaelgar gan awdur hynod o dalentog. Mae noson o hwyl diniwed yr olwg mewn clwb rygbi yn troi'n hunllef. Pwy sy'n gyfrifol am y digwyddiad sy'n chwalu bywydau? A fydd y gwir yn cael ei ddatgelu, neu a fydd yn aros yn gudd o dan bentwr o gelwyddau?
Disgrifiad Saesneg / English Description
A pacy thriller with an intriguing plot. A seemingly harmless evening of fun at a rugby club turns into a nightmare. Who's responsible for the event that changes so many lives? Will the truth be revealed or will it lie hidden beneath a mountain of lies?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173358
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173358
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ryc
- Awdur / Author
- Jones, Lleucu Fflur
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-06-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 312 pages
- Size
- 130 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Un nos Wener feddw yng Nghlwb Rygbi Aberysgo, mae castiau drwg aelodau’r tîm rygbi lleol yn arwain at anffawd angheuol Gruffudd, un o’u chwaraewyr newydd. Mae goblygiadau’r digwyddiad hwn yn achosi i ffrindiau agos a theuluoedd fynd benben â’i gilydd wrth i’w bywydau ddymchwel o’u cwmpas. Wrth i rai cyfrinachau gael eu celu dan gelwyddau ac i gyfrinachau eraill gael eu datgelu fesul un, yswn fel darllenwyr – yn union fel Beca’r wraig weddw a Ffion y ditectif – i ganfod y gwir ynghylch beth ddigwyddodd i Gruffudd y noson allweddol honno. Ar yr union adeg y mae llinynnau’r plot yn cael eu clymu ynghyd, a’n damcaniaeth ninnau fel darllenwyr yn dechrau dal dŵr, mae’r tro annisgwyl yng nghynffon y nofel yn chwalu pob rhagdybiaeth yn deilchion. Neidia plot y nofel yn ôl ac ymlaen o’r gorffennol i’r presennol ac o bersbectif un cymeriad i’r llall mewn modd crefftus a slic, gan ein tywys drwy’r digwyddiadau sy’n rhagflaenu ac yn olynu’r noson dyngedfennol hon. Mae’r stori’n cydio o’r dudalen gyntaf, ac yn gafael yn dynn yn y darllenydd tan ei diwedd. Ac er y symud yn ôl ac ymlaen mewn amser a rhwng cymeriadau, mae’r plot a’r cymeriadu yn cael eu hadeiladu’n gynnil gan ein camarwain hyd y diwedd. Yn sicr, nid cymeriadau hoffus mo bawb yn y nofel hon. Er y ceir doniolwch a chynhesrwydd rhwng rhai o’r cymeriadau ar adegau, nid allwn lwyr glosio, uniaethu na chydymdeimlo go iawn â’r un ohonynt. Cymeriadau go hunanol ac oeraidd ydynt i gyd ar y cyfan. Wedi dweud hynny, nid drwg o beth yw cael cymeriadau o’r fath yn y nofel gan mai portread cytbwys o’r gymdeithas ydyw, ac mae’r diffyg empathi a’r diffyg gallu i ddod ynghyd fel rhan o dîm yn wyneb anffawd yn rhoi gwedd wahanol i’r gymdeithas honedig glòs hon. Mae’n rhaid imi gyfaddef, cyn darllen y llyfr hwn, fod gen i ddisgwyliadau lled ragfarnllyd am natur a chynnwys y nofel. Awgryma’r clawr a’r teitl mai nofel wedi ei thargedu at ddilynwyr rygbi ydyw ond yn sicr, nid dyna’r gwir. Fel dynes ifanc nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb mewn rygbi, fe’m tynnwyd i fewn i’r stori yn syndod o gyflym a mwynheais droeon y plot yn fawr. Dyma un o’r nofelau rhwyddaf imi ei darllen ers tro, gyda’r dafodiaith ogleddol yn llifo’n naturiol. Mae’r stori ifanc ei hysbryd hon yn llawn cyffro, tensiwn a chyfrinachau, ac mae'n nofel berffaith ar gyfer unrhyw ddarllenydd sy’n hoff o ddirgelwch ac ychydig o ramant. Dyma drydedd nofel Lleucu Fflur Jones. Aeth sawl blwyddyn heibio ers cyhoeddi ei llyfr diwethaf, a byddai’n braf medru darllen mwy o’i gwaith yn y dyfodol, gan ei bod yn awdures benigamp sy’n medru llunio nofel afaelgar a rhwydd ei darllen sy’n gadael y darllenydd yn awchu am fwy.
Share
