Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Sara Mai a Lleidr y Neidr

Sara Mai a Lleidr y Neidr

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Sara Mai is back! All kinds of interesting creatures live in the zoo run by her family, including a very rare snake. But who would want to steal a snake? A story for 7-11 year old readers by a past Welsh Children's Poet Laureate, Casia Wiliam, with 6 special illustrations by Gwen Millward.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800991170
Gwales Code
gwales.com.9781800991170
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Sara Mai a Lleidr y Neidr
Awdur / Author
Wiliam, Casia
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-09-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Millward, Gwen
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
148 pages
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dwi’n siŵr fod yr awdur, Casia Wiliam, wedi teimlo ’chydig o bwysau tro ’ma wrth fynd ati i ysgrifennu dilyniant i Sw Sara Mai , yn enwedig o ystyried llwyddiant ysgubol y gwreiddiol, aeth ymlaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2021. Nid gwaith hawdd ydi curo hynny! Dwi’n meddwl ei bod hi’n bendant wedi cadw’r safon, ac mi wnes i fwynhau’r ail nofel cymaint os nad mwy na’i rhagflaenydd. Mae’r cynhwysion wnaeth Sw Sara Mai mor boblogaidd i gyd yno, ond erbyn hyn, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau hoffus, ac fe gawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau newydd hefyd. Cafodd y nofel gyntaf ei chanmol am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg a hefyd am gynnwys peth trafodaeth am hiliaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn beth da – mae angen i’n llenyddiaeth adlewyrchu ein cymdeithas ni heddiw. I mi, llwyddiant y ddwy nofel ydi sut mae’r pynciau hyn yn cael eu cyflwyno mor naturiol. Yn y stori gyntaf, roedd dyfodol y sw ei hun dan fygythiad, ond y tro hwn, fel awgryma’r teitl, mae rhywun wedi dwyn neidr. Ond nid neidr gyffredin mo hon, o na, ond Peithon Albino Porffor prin. Bydd gofyn i Sara Mai droi’n dditectif er mwyn datrys y dirgelwch mawr: ‘pwy yw lleidr y neidr?’ Wrth ddechrau ei hymchwiliad, daw nifer o’i ffrindiau a’i chydweithwyr o dan amheuaeth. Ai person diarth sydd ar fai neu oes ’na ddihiryn yn cuddio reit o dan ei thrwyn hi? Dim mwy o sboilars gen i! Dwi’n meddwl mai penderfyniad doeth oedd lleoli’r stori mewn lle mor ddiddorol â sw. Wedi’r cyfan, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi anifeiliaid, yn dydyn? Dwi’n gwerthfawrogi’r ffeithiau am wahanol anifeiliaid sy’n cael eu sbrinclo yma ac acw. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ’rioed wedi clywed am pademelon gynt! Mae’r anifeiliaid yn darparu cyfleoedd er mwyn cyflwyno pynciau megis colled, galar a pherthnasau mewn ffordd sensitif. Roeddwn i’n hoffi sut mae’r awdur wedi troi pethau ar eu pen gyda’r nofel yma. Yn y nofel gyntaf, bu Sara Mai yn ddigalon gan fod rhywun wedi bod yn dweud pethau cas amdani. Y tro hwn, fe welwn nad ydi Sara Mai ei hun yn berffaith bob amser, ac mae hi’n dysgu neges bwysig am fod yn garedig a pharchu eraill, hyd yn oed os oes ganddynt ymddangosiad neu ddiddordebau gwahanol. Mae’r iaith naturiol, hawdd i’w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7–11 oed, a byddwn yn argymell y rhain fel nofelau y dylai athrawon ystyried buddsoddi ynddynt.

View full details