Cyngor Llyfrau Cymru
Senedd (Cymraeg)
Senedd (Cymraeg)
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Bwriadwyd y Senedd i fod yn bont i'r dyfodol, gan adeiladu ar draddodiad hir o hanes a gwleidyddiaeth. Mae'r gyfrol hon gan Trevor Fishlock yn edrych ar gefndir safle'r Cynulliad ym Mae Caerdydd a llywodraeth Cymru. Ceir yma luniau trawiadol o'r adeilad a gynlluniwyd gan Richard Rogers, sy'n adlewyrchu'r saernïaeth, y dechnoleg a'r bensaernïaeth.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The Senedd was designed to be a bridge into the future, emerging from a long historical and political evolution. This illustrated book by Trevor Fishlock explores the background to the Assembly's site in Cardiff Bay and to government in Wales. The photographs illustrate the building designed by Richard Rogers: its construction, technology and architecture.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781802584165
- Gwales Code
- gwales.com.9781802584165
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Senedd (Cymraeg)
- Awdur / Author
- Fishlock, Trevor
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-04-06
- Cyhoeddwr / Publisher
- Graffeg
- Translator
- Iorwerth, Rhys
- Darlunydd / Illustrator
- Molyneux, Andrew
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 160 pages
- Size
- 150 × 150 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Arweinlyfrau - Cymru (yn Gymraeg) | EN: Guide Books - Wales (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C016973
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn rhinwedd fy swydd gydag Uned Wleidyddol BBC Cymru, rwy’n gyfarwydd iawn ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Ond fel arfer rwy’n rhy brysur yn rhuthro o un lle i’r llall i sylwi’n fanwl arno. Mae’r gyfrol swmpus hon yn gronicl llawn o harddwch yr adeilad, ac yn sicr, mae hi’n fwy na chyfrol bwrdd coffi sy’n llawn o luniau a delweddau. Cawn flas ar hanes gwleidyddol Cymru, hanes Bae Caerdydd a’r brifddinas, a gwybodaeth bensaernïol am gynllun yr adeilad a’r nodweddion crefftus sydd o’i amgylch. Mae yma hefyd gyfweliadau gyda’r penseiri, sef yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, sy’n rhoi hanes yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gysyniad y cynllun. Ac mae’r cyfweliad gyda Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn rhoi syniad da i ni sut mae’r adeilad yn gweithio o ddydd i ddydd, ynghyd â’i arwyddocâd i’r genedl. Un o gryfderau amlwg y gyfrol yw ffotograffau Andrew Molyneux, yn dogfennu’r adeilad wrth iddo gael ei godi, yn dangos safle’r Senedd ac yn manylu hefyd ar y nodweddion pensaernïol clyfar a deniadol sy’n gwneud yr adeilad yn un mor eiconig. Cawn hefyd gip tu ôl i’r llenni, gweld rhannau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd, megis stafell y boileri, swyddfa’r Llywydd, a’r systemau cyfrifiadurol sydd gan yr Aelodau yn y Siambr. Cawn hefyd esboniad o’r dull pleidleisio electronig a’r system negeseuo. Mae’r adeilad yn un dramatig, gyda golygfa wych dros y bae i gyfeiriad Penarth. Ei ganolbwynt yw’r twndis mawr uwchben y Siambr, ac esbonnir sut y cafodd coed cedrwydd o Ganada eu crymu o amgylch y twndis ac ar hyd y to. Mae’n amhosib peidio â chael gwefr o weld sut mae’r pren a’r llechi o chwarel Cwt-y-bugail, Blaenau Ffestiniog, wedi cael eu defnyddio i greu naws fodern ac awdurdodol. Mae’r defnydd celfydd o’r gwydr hefyd yn galluogi ymwelwyr i weld i mewn i’r Siambr a chael cip ar yr holl drafod islaw, gan greu’r teimlad agored oedd wrth galon gweledigaeth y penseiri. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, hanes a phensaernïaeth, mae’r gyfrol hon yn un hynod ddiddorol. Mae’r dyluniad glân a slic yn pwysleisio techneg y ffotograffydd wrth ddangos harddwch y strwythur a’r deunyddiau sy’n rhan o’r adeilad. Cawn hefyd flas ar hanes y safle, gan roi’r Senedd yn ei chyd-destun hanesyddol ar safle’r dociau ond sydd bellach yn bwerdy i ddemocratiaeth Cymru.
Share
