Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Senedd (English)

Senedd (English)

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd cryno yw Senedd yn dogfennu twf Caerdydd fel dinas ac fel lleoliad ar gyfer cartref Llywodraeth Cymru, a hynny trwy gysyniadau, heriau a chyflawniadau terfynol adeilad y Senedd, yn cynnwys ffotograffau trawiadol gan Andrew Molyneux. Testun Saesneg. Argraffiad Cymraeg ar gael hefyd: 9781802584165

Disgrifiad Saesneg / English Description

Now available in this new compact edition, Senedd documents the rise of Cardiff as a city and place of government through to the concepts, challenges and final achievements of the Senedd building itself, superbly photographed by Andrew Molyneux. English text. Welsh edition also available: 9781802584165

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781913134853
Gwales Code
gwales.com.9781913134853
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Senedd (English)
Awdur / Author
Fishlock, Trevor
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-04-06
Cyhoeddwr / Publisher
Graffeg
Darlunydd / Illustrator
Molyneux, Andrew
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
160 pages
Size
150 × 150 mm; depth 10 mm
Language Code
English
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Saesneg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in English)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes Lleol (yn Saesneg) | EN: Local History (in English)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C016973

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Trevor Fishlock is a writer and broadcaster who was staff correspondent of The Times in India, and New York and Moscow bureau chief for The Daily Telegraph. He has worked on assignment in more than sixty countries and has published widely.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn rhinwedd fy swydd gydag Uned Wleidyddol BBC Cymru, rwy’n gyfarwydd iawn ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Ond fel arfer rwy’n rhy brysur yn rhuthro o un lle i’r llall i sylwi’n fanwl arno. Mae’r gyfrol swmpus hon yn gronicl llawn o harddwch yr adeilad, ac yn sicr, mae hi’n fwy na chyfrol bwrdd coffi sy’n llawn o luniau a delweddau. Cawn flas ar hanes gwleidyddol Cymru, hanes Bae Caerdydd a’r brifddinas, a gwybodaeth bensaernïol am gynllun yr adeilad a’r nodweddion crefftus sydd o’i amgylch. Mae yma hefyd gyfweliadau gyda’r penseiri, sef yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, sy’n rhoi hanes yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gysyniad y cynllun. Ac mae’r cyfweliad gyda Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn rhoi syniad da i ni sut mae’r adeilad yn gweithio o ddydd i ddydd, ynghyd â’i arwyddocâd i’r genedl. Un o gryfderau amlwg y gyfrol yw ffotograffau Andrew Molyneux, yn dogfennu’r adeilad wrth iddo gael ei godi, yn dangos safle’r Senedd ac yn manylu hefyd ar y nodweddion pensaernïol clyfar a deniadol sy’n gwneud yr adeilad yn un mor eiconig. Cawn hefyd gip tu ôl i’r llenni, gweld rhannau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd, megis stafell y boileri, swyddfa’r Llywydd, a’r systemau cyfrifiadurol sydd gan yr Aelodau yn y Siambr. Cawn hefyd esboniad o’r dull pleidleisio electronig a’r system negeseuo. Mae’r adeilad yn un dramatig, gyda golygfa wych dros y bae i gyfeiriad Penarth. Ei ganolbwynt yw’r twndis mawr uwchben y Siambr, ac esbonnir sut y cafodd coed cedrwydd o Ganada eu crymu o amgylch y twndis ac ar hyd y to. Mae’n amhosib peidio â chael gwefr o weld sut mae’r pren a’r llechi o chwarel Cwt-y-bugail, Blaenau Ffestiniog, wedi cael eu defnyddio i greu naws fodern ac awdurdodol. Mae’r defnydd celfydd o’r gwydr hefyd yn galluogi ymwelwyr i weld i mewn i’r Siambr a chael cip ar yr holl drafod islaw, gan greu’r teimlad agored oedd wrth galon gweledigaeth y penseiri. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, hanes a phensaernïaeth, mae’r gyfrol hon yn un hynod ddiddorol. Mae’r dyluniad glân a slic yn pwysleisio techneg y ffotograffydd wrth ddangos harddwch y strwythur a’r deunyddiau sy’n rhan o’r adeilad. Cawn hefyd flas ar hanes y safle, gan roi’r Senedd yn ei chyd-destun hanesyddol ar safle’r dociau ond sydd bellach yn bwerdy i ddemocratiaeth Cymru.

View full details