Cyngor Llyfrau Cymru
Sgin Ti Fonolog?
Sgin Ti Fonolog?
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o 36 o fonologau gwreiddiol ar gyfer pobol ifanc, wedi eu hysgrifennu gan un sydd wedi bod yn ei chanol hi yn y byd perfformio ers blynyddoedd. Ceir yma hiwmor a dwyster, a'r cyfle i fachu cynulleidfa!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A collection of 36 original monologues for young people, combining humour and pathos, written by an experienced performer, teacher and mentor of young performers for many years.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173068
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173068
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sgin Ti Fonolog?
- Awdur / Author
- Roberts, Cefin
- Current Price ex VAT
- £7.95
- Current Price inc VAT
- £7.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-01-17
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Drama - Uwchradd (yn Gymraeg) | EN: Drama - Secondary (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dylai pawb, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau, sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb mewn perfformio, groesawu’r gyfrol hon gyda breichiau agored. Heb os nac oni bai, dyma adnodd amhrisiadwy y bu galw am ei debyg ers talwm iawn. Ceir yma dri deg a chwech o fonologau ar amrywiol themâu – rhai’n benodol ar gyfer merched, eraill ar gyfer bechgyn. Awgryma’r awdur yr oedrannau yr anelir y monologau ar eu cyfer, sydd yn beth da, gan mai camgymeriad hawdd i’w wneud yw dewis darnau sydd yn ormod o her, neu’n rhy aeddfed i unigolion yn eu harddegau cynnar allu uniaethu â hwy. Gall hynny ddifetha didwylledd perfformiad unigolyn ar lwyfan yn syth. Wedi dweud hyn, awgrymu hynny a wna’r awdur, ac wrth gwrs; rhoddir rhwydd hynt i amrywio ac addasu – gan wneud hynny’n ‘ofalus’, fel y noda’r awdur. Ceir nodiadau defnyddiol iawn yn y rhagarweiniad i’r gyfrol – rhyw fath o tips sydyn o’r hyn y dylid ei ystyried wrth baratoi ar gyfer perfformio monolog, a sut i feddwl ac edrych ar ddarn cyn dechrau meddwl am ei berfformio. Ceir yma gynghorion defnyddiol, fydd yn bendant yn gwneud i hyfforddwyr a pherfformwyr fel ei gilydd eu hystyried cyn dechrau ar unrhyw ddehongli posib. Ymdrinnir â themâu amrywiol a chyfoes yma, gyda chydbwysedd clir rhwng y difrif a’r digri, sy’n ei gwneud yn gyfrol eang ei hapêl. Maent yn themâu y gellir uniaethu â hwy, ac yn fonologau fydd yn siŵr o ennyn ymateb cynulleidfaoedd. Fel y noda’r awdur, ar gais nifer o bobl yn holi am fonolog ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau yr ysgogwyd ef i gyhoeddi’r gyfrol hon, ac yn ddi-os, bydd hen fodio arni gan eisteddfodwyr drwy Gymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Gawn ni erfyn ar i’r eisteddfodau wneud defnydd ohoni, gan osod rhai ohonynt yn destunau gosod o dro i dro, os gwelwch yn dda?
Share
