Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Sgint

Sgint

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Drama gan Bethan Marlow. Yr athro, yr Aelod Seneddol, yr entrepreneur a'r fam sengl. Pan fo'r esgid yn gwasgu, pwy sydd ar ei ennill a phwy sydd ar ei golled? Barn pwy sydd bwysicaf? Pwy all newid pethau? Daw geiriau'r ddrama Gymraeg hon o enau pobl go iawn sy'n dioddef cyni go iawn. Mae'n taflu golwg onest a diflewyn-ar-dafod ar y wasgfa economaidd ddiweddar.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A play written by Bethan Marlow. The teacher, the Member of Parliament, the entrepreneur and the single mum. When money's tight, who are the winners and who are the losers? Whose voice counts the most? Who can change things? This Welsh language play shares the real stories of those facing real hardships.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781907707056
Gwales Code
gwales.com.9781907707056
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Sgint
Awdur / Author
Marlow, Bethan
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-06-11
Cyhoeddwr / Publisher
Sherman Cymru
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
94 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Plingo cwningod, clybiau nos, dodrefn ail-law, pres, pres go iawn, dim pres. Iawn, cont? O fewn y ddrama hon am ‘dre’, mae dweud mawr. Wedi ei seilio ar gyfweliadau gyda thrigolion tref Caernarfon, mae fflyd o gymeriadau gwahanol, sefyllfaoedd gwahanol a dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn rhoi golwg epig ar G’narfon a’r dafodiaith gref yn byrlymu’n sydyn drwyddi draw. Mae hon yn debycach ar brydiau i raglen ddogfen ar bapur, ond hynny mewn ffordd slic a chynnil hefyd, wedi ei chuddio mewn strwythur bendant drama. Ac fel pob rhaglen ddogfen dda, y cymeriadau sydd yn ei gwneud hi. `Ma Cofis Dre hefo sense of humour’ a hynny trwy’r holl drafod sydd yn gwneud hon yn ddrama werth chweil – achos yn nhref Caernarfon, yn y difrifol, mae’r doniol yn aml iawn. Yma, cawn bobl Sgubs a phobl Cyngor, y gweithgar a’r di-waith, y prowd a’r powld, y caledi a’r comedi, y crach yn erbyn strach bawb arall. Ac yn fwy na hynny, cawn gymeriadau yn beirniadu bywydau ei gilydd – yn sbio ar sefyllfaoedd ei gilydd – y Cofi yn sbio ar y Cofi - drwy sbectolau pur wahanol. Ond yr hyn sydd yn dod â ni at wraidd y dweud ydy mai ‘bodau dynol, nid ystrydebau’ sydd o fewn y ddrama hon. Ydi, mae Caernarfon yn le heb ei ail, yn le unigryw ac yma mae rhywun yn sylweddoli pam…achos wrth edrych ar y bobl o fewn y dref fychan hon – gwelwn bod y byd i gyd yn byw yno - pob haen ohono bron. Mae’r ddrama hon yn crafu popeth oddi ar yr arwyneb ac yn dangos i bawb – ar ddiwedd y dydd, dan ni i gyd yn sgint. ‘Dio’m ots pa mor la-di-da w’t ti’ mae pawb ‘yn cachu fatha’ pawb arall’.

View full details