Cyngor Llyfrau Cymru
Sgramblo
Sgramblo
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r 'disgybl perffaith' pedair ar ddeg mlwydd oed, Davidde (roedd ei rieni'n cael trafferth sillafu) yn byw gyda'i dad ar ôl i'w fam farw. Mae ei dad yn gwneud ei orau, ond pan fo prifathro newydd yn dechrau yn ei ysgol, mae Davidde yn cael enw annheg o fod yn un sy'n creu trwbl.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Fourteen-year-old 'model pupil' Davidde (his parents had trouble spelling) lives with his dad after his mother died. But when a new headteacher starts at his South Wales valleys school, Davidde is unfairly labelled a troublemaker. To the horror of his teachers, Davidde finds a new passion for mortorcycle scrambling. He takes on the school bullies, but soon events threaten to overwhelm him.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781910080962
- Gwales Code
- gwales.com.9781910080962
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sgramblo
- Awdur / Author
- Davies, Huw
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-10-15
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Firefly Ltd
- Editor
- Wyn, Elinor
- Translator
- Davies, Huw; Wyn, Elinor
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 129 × 198 mm; depth 15 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Magwyd Huw Davies yn Nantyffyllon, ger Maesteg ac mae'n dysgu Saesneg. Mae ganddo MA mewn Sgriptio o Brifysgol Morgannwg. Fel athro Saesneg, daeth i sylweddoli bod prinder yr hyn mae'n ei alw'n 'llyfrau gwirion bost ar gyfer bechgyn gwirion bost', a dechreuodd waith ar Sgramblo . Mae'n byw yng ngorllewin Cymru gyda'i wraig a'u dau blentyn.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyn mynd ati i ddarllen Sgramblo roeddwn i eisiau gwybod mwy am yr awdur gan fod ei enw’n ddieithr i mi. Darganfyddais mai athro uwchradd ydoedd oedd â’r farn nad oedd digon o ‘lyfrau gwirion i fechgyn gwirion’ i’w cael. Grêt, meddyliais. Rhywun sydd â phrofiad o weithio gyda phlant sydd ddim am greu rhywbeth cymhleth ofnadwy. Gyda hyn mewn cof, es ati i ddarllen. Mae’r stori’n llifo’n dda a’r cymeriadau yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd. Ga i ddweud ar y cychwyn fan hyn hefyd nad llyfr i fechgyn yn unig ydyw – mae yna ferched â chymeriadau cryf yn y stori’n ogystal, a phwy sydd i ddweud nad yw merched yn hoffi motobeics?! Oherwydd sillafu gwael ei rieni, mae’r prif gymeriad yn derbyn yr enw Davidde. Mae’n ddisgybl disglair ac yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol. Ond wrth gwrs mae yna fwlis sy’n llwyddo i wneud ei fywyd yn anodd. Dydy hyd yn oed y prifathro newydd (sydd yn gymeriad rhyfedd iawn, a dweud y lleiaf) yn helpu dim ar y sefyllfa, ac os rhywbeth mae'n gwneud pethau’n waeth i Davidde drwy ei ddrwgdybio. O ddeall teitl y llyfr a gweld llun y clawr, dyw hi ddim yn syrpreis, felly, i ddarllen fod Davidde yn cychwyn sgramblo motobeics wrth brynu motobeic ail-law yn hytrach na’r telesgop yr oedd ei gymydog Mr Leyshon yn awyddus iddo brynu. Gyda hyn mae’n llwyddo i dalu’n ôl i’r bwli Lyndon a gwelwn y berthynas rhyngddo a’i dad yn gwella hefyd wrth iddo ennill ei barch am ddilyn yr un hobi â'i dad pan oedd hwnnw'n grwt. Mae’r berthynas hon rhwng tad a mab yn greiddiol i’r stori wrth inni ddeall fod marwolaeth mam Davidde yn golygu mai ei dad yn unig sy’n ei fagu, ac yn ceisio gwneud ei orau o'r sefyllfa anodd. Dilynwn helyntion Davidde wrth i’r rasus wibio heibio o un i un, ac wrth i Davidde hefyd geisio parhau i wneud yn dda gyda’i waith ysgol. Ceir ambell dro annisgwyl tua diwedd y stori, a daw cyfrinach y Marchog Du i’r amlwg erbyn y bennod olaf. Gwyliwch na chollwch chi hi! A yw’r awdur, felly, wedi llwyddo gyda’i fwriad i ysgrifennu ‘llyfr gwirion’? Ydi, ddwedwn i, ond un darllenadwy dros ben! Mwynhewch.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Er mawr ddychryn i'w athrawon, mae Davidde yn datblygu cariad angerddol at sgramblo ar feiciau modur. O'r diwedd mae'n medru mynd i'r afael â bwlis yr ysgol ac ennyn parch ei dad drwy wneud hynny a pharch y Marchog Du. Ond pan fo ganddo ddewis i fradychu teyrngarwch yr union rai sydd agosaf ato, mae'r digwyddiadau'n bygwth goddiweddyd Davidde a'i faeddu. Dyma stori ddoniol a chynnes am ysgol a chartref ar gyfer plant 8-14 oed. Stori antur hynod uniongyrchol ei harddull sy'n gynhyrfus a bywiog ac yn llawn doniolwch am fwlis sydd dim mor galed a beiciau sgramblo fydd yn apelio at fechgyn, ond sydd hefyd yn cynnwys merch sy'n gymeriad cryf. Bydd yn apelio at fechgyn o lefel darllen is nad ydynt yn cael eu denu i ddarllen bob tro, yn enwedig at straeon sydd wedi'u targedu at blant iau, felly mae'n gyfrol ddelfrydol ar gyfer gwella lefelau llythrennedd. Mae'r darlun o'r ysgol yn un credadwy ac adloniannol, mae'r gyfrol wedi'i hysgrifennu â chlust fain at ddeialog, comedi a dwyster yn y dosbarth - dyma adnabyddiaeth o brofiad plant ysgol tawel sy'n ymddwyn yn dda.
Share
