Cyngor Llyfrau Cymru
Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel ysgafn a doniol ar gyfer Dysgwyr Lefel Sylfaen Dau a Lefel Canolradd am y newyddiadurwraig Lowri Glyn sy'n teimlo bod ei gwaith ar bapur newydd Post Pen-y-bae yn ddiflas iawn, hyd nes i bopeth newid un diwrnod! Geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous novel for Welsh Learners Foundation Level Two and Intermediate Level. Journalist Lowri Glyn feels that life on the newspaper Post Pen-y-bae is very dull, until everything changes one day! Useful vocabulary on each page.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848518827
- Gwales Code
- gwales.com.9781848518827
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
- Awdur / Author
- Arnold, Lois
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2022-02-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 216 pages
- Size
- 195 × 128 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma nofel i ddysgwyr a dylid ei chroesawu gyda brwdfrydedd. Bûm yn ei thrafod gyda dau ddosbarth oedd yn cychwyn lefel Ganolradd ac roedd yr ymateb yn wych gan bob un o'r dysgwyr. Dyma rai sylwadau: 'Mae hi’n nofel dda iawn i ddysgwyr – yn syml, eto ddim yn rhy syml.' 'Diddorol.' 'Mae’r patrymau’n eglur.' 'Mae’r eirfa’n ddefnyddiol iawn ac yn handi wrth droed y tudalen.' 'Mae hi’n wneud i chi wenu. Mae hi’n ddoniol mewn ffordd dawel.' 'Mae hi’n gwneud i mi isio darllen mwy.' 'Dwi isio ei phrynu hi.' 'Mae hi’n llifo’n naturiol.' Roedd y dysgwyr wedi penderfynu prynu’r llyfr a hynny ar ôl clywed y bennod gyntaf yn unig! O safbwynt tiwtor, braf iawn yw gweld defnydd clyfar iawn o batrymau sydd eisoes yn gyfarwydd i’r dysgwyr. Gellir cyfiawnhau darllen y nofel yn y dosbarth fel modd i adolygu’r patrymau'n unig. Mae’r geiriau benthyg sydd â blas Saesneg yn hwyluso’r darllen ac yn codi gwên yn aml ar yr un pryd. Nid yw'r ffaith mai darn o lenyddiaeth i ddysgwyr yw hon yn ei bychanu o gwbl. Mae ganddi holl rinweddau nofel dda a saif yn gryf ar ei thraed ei hun. Mae ganddi adeiledd cadarn ac mae’r byd o fewn y swyddfa yn cael ei gyflwyno’n raddol i ni. Mae yma fanylion bach am y cymeriadau sydd yn ein hatgoffa, bron, o’r bobl sydd o'n cwmpas bob dydd, a'r rhai rydyn ni’n yn eu hadnabod eisoes. Mae ‘syspens’ yma. Rhaid i ni sefyll ar ochr dibyn yn aml a disgwyl am y bennod nesa. Cawn gyflwyniad i’r byd Cymreig a’i wahanol sefydliadau. Dyma ffordd hwylus iawn i ddysgwyr gael cip ar agweddau o fywyd a all fod y tu hwnt i’w profiad fel arall. Ond eto cawn ein codi i’r byd tu hwnt i Gymru hefyd – byd cyfoes sy’n cynnwys Kate Adie ac eraill. Profiad braf oedd darllen y nofel hon. Mae’n stori werth chweil, felly prynwch hi!
Share
