Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Siani Flewog

Siani Flewog

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel yn amlinellu dylanwad Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn (1875-1905) ag oedd yn wariwr afradlon ar dlysau, gemau a chyflwyniadau theatrig, ar ddwy Gymraes, Annie Roberts ac Eluned Humphreys.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel outlining the influence of Henry Cyril Paget, fifth Marquis of Anglesey (1875-1905), lavish spender on jewellery and theatrical presentations on two Welsh women, Annie Roberts and Eluned Humphreys.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784616298
Gwales Code
gwales.com.9781784616298
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Siani Flewog
Awdur / Author
Richards, Ruth
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-09-27
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Merch o flaen ei hamser yw Annie Roberts – tipyn o rebel sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r byd o’i chwmpas ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy gyfnod y ddau ryfel byd hyd at ganol y ganrif ddiwethaf. A pha ryfedd ei bod hi’n gymeriad mor lliwgar o gofio i’w magwraeth draddodiadol lem gael ei dylanwadu’n fawr gan ei hymwneud â phumed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, a’r bywyd afradus, bohemaidd oedd yn nodweddu ei blas yn Llanedwen, Môn? Pendilio’n rhwydd o un cyfnod mewn hanes i’r llall a wna’r nofel – o gyfnod plentyndod Annie i’w sefyllfa bresennol, lle mae’n penderfynu gadael ei gŵr ‘saff’, Frank, yn dilyn marwolaeth eu mab, Cyril, mewn damwain beic modur, cyn symud ymlaen i ddisgrifio’r bywyd newydd, annibynnol, y mae’n ei greu iddi hi ei hun, hyd at ei henaint. Merch a chanddi chwaeth yw Annie, ond mae hi hefyd yn barod i herio confensiynau ac i godi dau fys, fwy neu lai, ar y bywyd traddodiadol Gymreig sydd o’i chwmpas a byw bywyd fel y myn hi – yn unol â’r modd yr oedd Marcwis Môn yn byw ei fywyd yntau. Ac yn debyg iawn i’r Marcwis a oedd yn gefnogol iawn i’r gymdeithas o’i gwmpas ac i unigolion bregus o fewn y gymdeithas honno, er gwaethaf y ffortiwn a wastraffodd ar emau a dillad, mae Annie hefyd yn un dda iawn am ddeall pobl ac am fynnu rhyddid iddyn nhw allu mynegi eu hunain a bod yn driw i’w personoliaethau eu hunain. Wrth gwrs, caiff hithau ei beirniadu am fod yn wahanol, gyda’i gwallt ‘platinum blonde’ a’r cwmni y mae’n ei gadw, ond mae’n llwyddo i fod yn gefn mawr i nifer o unigolion bregus o’i chwmpas, yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae’n ffrind triw iawn i Eluned, Gwynfor ac Ernie, sydd bob un wedi’u gormesu gan amgylchiadau ac agweddau teuluol, ond sydd, bob un, yn cael cyfle i ddianc o’r gormes hwnnw a mynegi eu hunain maes o law. Dyma ail nofel Ruth Richards. Fel yn Pantywennol , ei nofel ysgubol gyntaf a gyhoeddwyd yn 2016, diddordeb mewn pobl sydd wrth wraidd Siani Flewog hithau, ynghyd â’r syniad o hunanfynegiant, rhyddid ac awydd y prif gymeriad i ddod i adnabyddiaeth well ohoni hi ei hun fel person annibynnol, unigryw a gwerthfawr. Mae ei harddull yn esmwyth a chyhyrog ac iddi dinc traddodiadol sy’n gweddu i naws hanesyddol y nofel. Nofel hynod gywrain sy’n siŵr o apelio at gynulleidfa eang.

View full details