Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori'r Ail Ryfel Byd

Stori'r Ail Ryfel Byd

Regular price £3.99 GBP
Regular price Sale price £3.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Addasiad Cymraeg Elin Meek o lyfr hanfodol ar gyfer dosbarthiadau hanes disgyblion CA2. Edrychir ar achosion yr Ail Ryfel Byd, ei frwydrau a'i drychinebau, a'r modd yr effeithiodd y rhyfel ar genhedloedd a phobloedd ar draws y byd, ac ychwanegir at y testun gan ddarluniau a photograffau gwreiddiol, mapiau, llinellau amser a blychau ffeithiau.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Specially adapted by Elin Meek for Key Stage 2 children (aged 7 to 11 yrs). An account of the Second World War which examines the causes of the war, its great battles and catastrophes and how the struggle affected nations and people all over the world. It also features vivid illustrations, original photographs, timelines, maps and fact boxes. Essential for all history classes.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849672061
Gwales Code
gwales.com.9781849672061
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori'r Ail Ryfel Byd
Awdur / Author
Dowswell, Paul
Current Price ex VAT
£3.99
Current Price inc VAT
£3.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-02-06
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Meek, Elin
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
162 × 228 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: History - Primary (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tasg anodd iawn yw esbonio hanes yr Ail Ryfel Byd. Mae’n fwy cymhleth na’r Rhyfel Byd Cyntaf, rywsut, gyda chynifer o bobl yn ymladd mewn lleoliadau ar draws y byd, a hynny am sawl rheswm gwahanol. Fe laddwyd o leiaf 50 miliwn o bobl, yn filwyr a sifiliaid. Mae’r gyfrol yn dechrau drwy ein hatgoffa ni o’r hyn a ddigwyddodd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a chanlyniadau cytundeb heddwch Versaillles. Mae’n frawychus darllen am sut y gwnaeth tensiynau gwleidyddol ac economaidd y 1920au a’r 1930au arwain yn anorfod at ryfel arall. Mae’r llyfr yn rhoi trosolwg eang o’r Ail Ryfel Byd – y digwyddiadau, y prif gymeriadau, a’r cymhellion gwahanol. Adrannau byr sydd yna ond mae nhw’n gynhwysfawr iawn ac mae’r lluniau a'r ffotograffau sydd ar bob tudalen yn drawiadol, ac yn gymorth mawr wrth ddarllen. Mae’r llinell amser ar y diwedd yn ffordd dda o atgoffa’r darllenydd o berthynas y gwahanol frwydrau â’i gilydd. Daw cymhlethdod a chreulondeb yr Ail Ryfel Byd yn boenus o amlwg; dyma ryfel yr holocost, y bomiau atomig a Stalingrad. Dyma’r rhyfel pan roedd nifer o’r pwerau mawr yn ystyried y gelyn yn israddol, gan ddangos dim trugaredd tuag at sifiliaid wrth gipio tir. Mae’n debyg i Japan hyd yn oed ollwng llau wedi eu haentio a’r pla du ar rannau o China mewn ymgais i gynorthwyo’i hachos. Yn ddi-os, mae’r llyfr yn llwyddo i adrodd stori’r Ail Ryfel Byd. Yr hyn sy’n sobri dyn wrth ddarllen y tudalennau olaf yw sylweddoli sut mae canlyniadau’r rhyfel hwnnw'n dal i gael effaith heddiw, ac nad ydym wedi dysgu fawr ddim o'r profiadau enbyd.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Especially adapted by Elin Meek for Key Stage 2 children (aged 7 to 11 yrs). An account of the Second World War which examines the causes of the war, its great battles and catastrophes and how the struggle affected nations and people all over the world. It also features vivid illustrations, original photographs, timelines, maps and fact boxes. Essential for ALL history classes.

View full details