Cyngor Llyfrau Cymru
Stori'r Brenin Arthur
Stori'r Brenin Arthur
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ailadroddiad trawiadol o chwedlau clasurol y Brenin Arthur gan y tîm arbennig o'r awdures Siân Lewis a'r darlunydd Graham Howells. Mae'r llyfr moethus, lliwgar, argraffiad clawr caled hwn yn cynnwys yr holl chwedlau enwog am y Brenin Arthur yn cynnwys yr Antur am y Greal Sanctaidd, Breuddwyd Myrddin a Brwydr Camlan.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A stunning retelling of the classic tales of King Arthur by award winning team of author Siân Lewis and illustrator Graham Howells. This luxurious, colourful, hardback edition includes all of the famous tales of King Arthur - The Quest for the Holy Grail, Merlin's Dream and The Battle of Camelot.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849673280
- Gwales Code
- gwales.com.9781849673280
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Stori'r Brenin Arthur
- Awdur / Author
- Lewis, Siân
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-02-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Darlunydd / Illustrator
- Howells, Graham
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 144 pages
- Size
- 246 × 246 mm; depth 6 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gyfrol a’m swynodd i a fy mab o’r darlleniad cyntaf. Fel hyn y dechreua’r stori: “Roedd hi’n fore cynta’r gwanwyn yng Nghoed Eryri. Disgleiriai’r haul drwy frigau’r pren afalau, a chripian tuag at y ddau oedd yn cysgu islaw." Yn raddol fe’n tynnir i mewn i freuddwyd Myrddin, yna i lys Uthr Bendragon a’r helyntion gwaedlyd a rhyfeddol sy’n dilyn. Ond cyn hynny, cawn gipolwg ar fapiau o Brydain a Chymru Arthur, yn ogystal â chael ein cyflwyno i Farchogion y Ford Gron. Nid cyfrol i ruthro drwyddi mo hon, ac mae gosod Arthur yn ei gyd-destun ar y cychwyn yn talu ar ei ganfed wrth i’r stori ddatblygu. Serch hynny, nid oes arlliw o flas gwers hanes ar y llyfr! Mae’r antur yn symud yn ei blaen yn chwim, yr ysgrifennu’n llawn cyffro a’r disgrifiadau’n pefrio heb fod yn orflodeuog. Cawn foeswersi cynnil ond pwysig yn sgil doethineb cymeriad Arthur, ac mae’r rheiny’n cyferbynnu â chynnwrf y brwydrau treisgar. Tydw i ddim yn gymwys i farnu’r gyfrol ar sail ei chywirdeb hanesyddol (neu chwedlonol), ond gallaf ddweud i sicrwydd fod unrhyw liw a manylion wedi eu hychwanegu i bwrpas, a hynny mewn modd hynod effeithiol. Cryfder y llyfr ydi ei fod yn eich cymell i droi i’r dudalen nesaf o hyd – ac anodd ydi ei roi i lawr, er bod llygaid fy mab Maelgwn chwe blwydd oed yn dechrau cau! Ac yntau’n sgut am ffilmiau Star Wars , mae’n gweld tebygrwydd yng nghymeriad Arthur a’r arwr arall hwnnw, Luke Skywalker, ac arlliw o hud a lledrith ei lightsaber yng nghleddyf Caledfwlch. Yn wir, mae digon o ddigwydd, dirgelwch ac antur yn y gyfrol i ddigoni chwaeth a chynhyrfu dychymyg hyd yn oed y bechgyn (neu’r genethod) mwyaf galactig eu chwaeth. Mae’r penodau wedi eu saernïo’n gelfydd, fel y byddai disgwyl gan awdures mor brofiadol â Siân Lewis, a darluniau cain a thrawiadol Graham Howells yn atgyfnerthu’r disgrifiadau lliwgar yn yr ysgrifennu. Dyma gyfrol i’w mwynhau a’i thrysori.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Revel in these magical Welsh myths; share the wondrous stories with a new generation of readers.
Share
