Cyngor Llyfrau Cymru
Stori'r Rhyfel Byd Cyntaf
Stori'r Rhyfel Byd Cyntaf
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Addasiad Cymraeg Elin Meek o lyfr hanfodol ar gyfer dosbarthiadau Hanes disgyblion CA2. Edrychir ar achosion y Rhyfel Byd Cyntaf, y brwydrau mawr a'r trychinebau, a sut yr effeithiodd y rhyfel ar genhedloedd a phobloedd ar draws y byd, ac ychwanegir at y testun gan ddarluniau a ffotograffiaeth gwreiddiol, mapiau, llinellau amser a blychau ffeithiau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Specially adapted into Welsh by Elin Meek for Key Stage 2 children (ages 7 to 11 years). It looks at the causes of World War 1, its great battles and catastrophes and how the war affected nations and people all over the world. Pages are brought to life through vivid illustrations and original photographs, as well as timelines, maps and fact boxes. Essential for History classes.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849672054
- Gwales Code
- gwales.com.9781849672054
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Stori'r Rhyfel Byd Cyntaf
- Awdur / Author
- Dowswell, Paul
- Current Price ex VAT
- £3.99
- Current Price inc VAT
- £3.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-02-06
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Meek, Elin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 96 pages
- Size
- 162 × 228 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: History - Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dweud yr hanes fesul blwyddyn mae’r gyfrol hon, gydag adran gychwynnol yn esbonio cefndir y gwrthdaro, ac adran glo yn trafod sgileffeithiau’r brwydro. Mae pob tudalen yn llawn gwybodaeth a ffeithiau, wedi’u trefnu mewn dull sy’n apelio yn hytrach nag yn blino rhywun. Mae yna luniau, mapiau, darluniau a phosteri di-rif, ac adrannau bychain yn cyfleu ffaith neu ddwy ychwanegol ar ymyl pob tudalen. Ceir digon i ddenu’r llygaid a’r diddordeb, ac ambell lun cofiadwy iawn nad wyf wedi eu gweld o’r blaen, fel y llun o’r menywod o Rwsia a wirfoddolodd i ymuno â'r brwydro, ac yn cael eu hyfforddi yn St. Petersburg. Oherwydd anferthedd y pwnc, dyw hi ddim, efallai, yn gyfrol i’w darllen ar un tro. Mae’r prif ddigwyddiadau i gyd yma a digon o gefndir yn rhoi cyd-destun iddyn nhw. Fe ddarllenwn am ddatblygiad gwahanol fathau o arfau a dulliau o ymladd, y tensiynau gwleidyddol, propaganda, effaith y rhyfel gartre a phrofiadau’r milwr cyffredin. Os ydych chi eisiau gwybodaeth bellach am bwnc neu ddigwyddiad, yna rhaid troi at ffynonellau eraill, ond fel arolwg o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ei gyfanrwydd mae’r gyfrol hon yn ardderchog. Gan mai cyfieithiad o lyfr Saesneg yw hwn does yna fawr o sylw i Gymru heblaw am frawddeg am Hedd Wyn a dau gyfeiriad at Lloyd George. Ond mae’r esboniadau'n syml a darllenadwy ac mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu cymhlethdod a hylltra’r rhyfel, a hefyd sut yr arweiniodd y tensiynau hynny a oedd yn bodoli wedi’r cadoediad a chytundeb Versailles yn anorfod at yr Ail Ryfel Byd.
Share
