Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori Sydyn: Bryn y Crogwr

Stori Sydyn: Bryn y Crogwr

Regular price £1.00 GBP
Regular price Sale price £1.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Nofel arswyd am goediwr ( tree surgeon ) sy'n cael profiadau rhyfedd wrth drin hen dderwen sydd â hanes yn mynd 'nôl i wrthryfel Owain Glyndŵr.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A thriller about a tree surgeon who has strange experiences as he treats an old oak tree dating from the rebellion of Owain Glyndŵr. Another title in the short and fast-paced series Quick Reads.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784611149
Gwales Code
gwales.com.9781784611149
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori Sydyn: Bryn y Crogwr
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£1.00
Current Price inc VAT
£1.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-02-27
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Bethan Gwanas yn un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni garddio S4C.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Pan ddechreuais i ddarllen Bryn y Crogwr roeddwn i’n amau pa mor hawdd fyddai hi i ysgrifennu nofel fer a allai apelio at y rheini yn eu harddegau hŷn ac oedolion hefyd. Oni fyddai’r stori’n rhy arwynebol a syml i gynnal diddordeb? Ond erbyn diwedd yr ail dudalen, pan mae Cai yn cael cyfarwyddyd ar sut i ddringo coeden heb ganghennau trwy ddefnyddio rhaff – ‘Dychmyga mai dynes ydi hi’ – roedd fy amheuon wedi hen ddiflannu. Coedwigwr yw Cai. Wrth iddo geisio torri hen goeden dderwen ar dir ei fòs, Wil Camlan, mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd iddo. Mae yna gyfres o ddamweiniau, ac mae Cai yn gweld a theimlo pethau anarferol. Gyda chymorth y cyn-lyfrgellydd Dewi Jones mae’n mynd ati i ddarganfod mwy am Fryn y Crogwr ac am yr hyn ddigwyddodd yno ganrifoedd yn ôl. Mae rhywun yn benderfynol o ddial am gam wnaethpwyd yno yng nghyfnod Owain Glyndŵr, ac wrth i Cai a Dewi ddarganfod mwy mae’r stori’n troi yn wirioneddol frawychus. Mae ysbryd dig a dialgar yn meddiannu Cai, ac mae ei fryd ar frifo disgynyddion yr un a wnaeth gam ag ef. Er mai stori ysbryd yw’r nofel mae’r cymeriadau ynddi yn gwbl gredadwy, ac wedi eu darlunio’n grefftus iawn mewn ychydig frawddegau. Mae perthynas Cai a Mari, yn enwedig, yn realistig iawn; mae eu sgwrs a’u gweithredoedd yn llawn o’r pethau bach bob dydd sy’n gyffredin i bawb. Dyw iaith y nofel ddim wedi ei gorsymleiddio chwaith, a cheir ynddi ddigon o hiwmor a dywediadau bachog, lliwgar. Er fy amheuon cychwynnol, dwi’n meddwl y byddai ymestyn y stori yma i greu nofel hwy yn gwneud cam â hi; mae’n stori sydyn dda sy’n cwrdd ag anghenion y gyfres hon.

View full details