Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori Sydyn: Inc

Stori Sydyn: Inc

Regular price £1.99 GBP
Regular price Sale price £1.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Nofel fer, fachog gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Lluniau ar groen, dyna'r cyfan ydi tatŵs. Ond i'r rhai sy'n dod i stiwdio tatŵs Ows ­ ac i Ows ei hunan ­ maen nhw'n symbol o rywbeth dyfnach nag addurn o inc ar eu cyrff yn unig. Mae gan bawb ei reswm dros gael tatŵ, a gall hwnnw fod yn un annisgwyl weithiau.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A title in the short and fast-paced series Quick Reads. A picture on skin, that is what a tattoo is. But for those who come to Ows' tattoo studio - and for Ows himself - they are a symbol of something deeper than just a decoration in ink on their skin. Everyone has their reason for having a tattoo, and it can sometimes be an unexpected one.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716330
Gwales Code
gwales.com.9781847716330
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori Sydyn: Inc
Awdur / Author
Ros, Manon Steffan
Current Price ex VAT
£1.99
Current Price inc VAT
£1.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-01-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
112 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd Manon Steffan Ros yn y Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, ac mae hi bellach yn byw ym Mhennal, Bro Dysynni, gyda'i gŵr a dau o feibion. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri (2005) ac Abertawe (2006). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn , restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 a 2012 gyda’r ddwy nofel i blant, Trwy’r Tonnau a Prism .

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Manon Steffan Ros was born in Rhiwlas, near Bethesda. She now lives with her husband and two sons in Pennal, near Machynlleth. She has won two drama medals at the National Eisteddfod, at Eryri in 2005 and Swansea the following year. Manon’s first novel for adults – Fel Aderyn – reached the shortlist for the Welsh Book of the Year award in 2010. Two of her novels for children, Trwy’r Tonnau and Prism , won the Tir na n-Og prize in 2010 and 2012.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Beth yw’r stori tu ôl i’r tatŵ? Yn Inc , nofel newydd Manon Steffan Ros yn y gyfres Stori Sydyn/Quick Reads, cawn ein cyflwyno i Ows – dyn sy’n anhapus yn ei waith fel artist tatŵs. Mae’n teimlo bod bywyd wedi troi’n wag, yn ddiflas, yn anniddorol a digariad wrth iddo orfod gadael ei gartref a’i deulu a gweld ei fywyd yn cael ei droi ben i waered. Mae siwrnai Ows yn llawn emosiwn a phoen wrth i bob tatŵ ddweud stori ac agor ei lygaid unwaith eto. Bu Ows yn creu gwaith celf ar ffurf tatŵs ar groen cleientiaid o bob math yn ei stiwdio. Er lles ei ferch, mae’n ceisio gwneud bywyd newydd iddo’i hun, a thrwy greu tatŵ er mwyn helpu ffrind newydd, mae’n sylweddoli pa mor debyg yw’r golled mae’r ddau ohonyn nhw wedi’i chael. Cawn gip ar fyd Ows wrth iddo hel atgofion mewn dyddiadur sy’n cynnwys lluniau tatŵs o’r gorffennol. Wrth weithio ar datŵ o gyrn carw llifa’r atgofion ’nôl am adeg pan oedd Jen, ei gariad ers dyddiau ysgol, yn ei garu. Mae dawn Manon i greu tensiwn a theimlad yn galluogi’r darllenydd i gydymdeimlo â’r cymeriadau a byw’r stori trwy’r geiriau a’r tatŵs. A ddaw rhamant yn ôl i fywydau Ows a Jen?

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

What’s the story behind the tattoo? Ows is a tattoo artist – the central character in the latest Stori Sydyn/Quick Reads novel by Manon Steffan Ros, Inc. He’s unhappy in his work and feels that life is passing him by, especially after his marriage breakdown and leaving the family home. Each new tattoo reminds him of the emotional pains he has experienced. Ows has been practicing his art on the skins of his many clients in his studio. He had to leave home for the sake of his daughter, but while creating a new tattoo for a friend he realised that common threads ran through the loss that both of them were suffering. We gain an insight into Ows’s experiences as he recalls his journey in a diary that also includes examples of his tattoo work from the past. It is whilst working on a special tattoo of the antlers of a reindeer that the memories of his love for his wife, Jen, come rushing back – they had married soon after leaving school. Jen loved him then. Manon’s way with words, and her skill at creating tension and feelings, allows the reader to sympathise with the various characters, and live the story through word and tattoos. Can Ows and Jen rediscover their lost romance?

View full details