Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori Sydyn: Oswald

Stori Sydyn: Oswald

Regular price £1.00 GBP
Regular price Sale price £1.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Un o lyfrau byr cyfres Stori Sydyn 2014 yn adrodd hanes Oswald, cyn-newyddiadurwr a fu'n ysgrifennu teyrngedau i'r ymadawedig. Cafodd y sac o'i swydd wedi iddo lunio teyrnged i gariad ei fam – a hwnnw'n dal ar dir y byw! Mae Oswald yn parhau i fynychu angladdau ac yn nodi pob manylyn yn ei lyfr bach coch. Dyma stori fer yn llawn hiwmor cynnil gan awdur hynod brofiadol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A title in the short and fast-paced series Quick Reads. Oswald is a journalist who writes obituaries in newspapers. He is sacked from his job when he writes an obituary to his mothers boyfriend, who was still alive. He leads a lonely life and is obsessed with funerals. This story is about his attempt to free himself from his obsession.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847718358
Gwales Code
gwales.com.9781847718358
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori Sydyn: Oswald
Awdur / Author
Roberts, Lleucu
Current Price ex VAT
£1.00
Current Price inc VAT
£1.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-01-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Anodd yw dychmygu byd heb hiwmor – a diolch am hynny. Mae chwerthin fel chwa o awyr iach yn y gwanwyn, a gall gwên godi calon. Rhaid cydnabod mai tipyn o gamp yw ceisio pwyso a mesur yr hyn sy’n peri i rywun wenu neu chwerthin. Gall gair, gweithred a sefyllfa esgor ar ddoniolwch, ond tasg amhosibl yw cofnodi cynhwysion digrifwch ar bapur ar ffurf rysáit. Edwino wnaeth y cyfleoedd i ddod ynghyd er mwyn clebran ac adrodd storïau yn ein cymunedau yn y blynyddoedd diweddar, a chiliodd y cymeriadau ffraeth o'n cymdeithas. Pleser, felly, oedd cwrdd ag Oswald Myrddin Jones yn un o gyfrolau Stori Sydyn 2014. Cafodd Lleucu Roberts afael ar nifer o elfennau digrifwch a llwyddodd i’w trafod yn ddeheuig, gan greu cymeriad credadwy. Amlygir ei chrefft o drin geiriau yn gyson a defnyddir cymhariaeth a dihareb yn gelfydd. Lluniodd olygfeydd cofiadwy a phortreadau cryno. Nid oes angen llawer o ddychymyg i weld Oswald yn y gegin yn blasu’r bwydydd o ben draw’r byd ond a ddaeth mewn gwirionedd o fwyty Indiaidd cyfagos. Mae ei ymateb i’r danteithion dieithr a’r sgwrs ag Amy yn cymell gwên. Cynildeb yr hiwmor yn aml yw’r allwedd i lwyddiant y gyfrol. Awgrymir natur ac ymddygiad Oswald gan gyfeiriadau digon di-nod ar un olwg ond cyfeiriadau sy’n portreadu’r cymeriad i’r dim. Meddyliaf yn arbennig am ei ymdrech i blygu ei gôt ar y trên, y gofal wrth fesur faint o siwgwr mae'n ei roi yn ei de, a’r ffaith ei fod yn ddyn un siwmper. Mae dawn Lleucu Roberts i sylwi ar y manion hyn yn fodd i’r darllenydd ddod i adnabod Oswald yn well. Plethwyd y digri a’r difri er mwyn trafod gwirioneddau am gyfrinachau ac am bethau pwysig bywyd, a chyflwyno ambell gyd-ddigwyddiad anesboniadwy. Crybwyllir bod gan Oswald wersi i’w dysgu. Hyderaf y daw cyfle eto i gwrdd â’r cymeriad o Abertawe ag inc yn ei waed. Gall Oswald brofi’n olynydd teilwng i gymeriadau cofiadwy a luniwyd gan awduron megis Harri Parri a Wil Sam.

View full details