Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori Sydyn: Y Stelciwr

Stori Sydyn: Y Stelciwr

Regular price £1.00 GBP
Regular price Sale price £1.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel sy'n llawn tensiwn o'r dechrau i'r diwedd. Mae Einir yn cwrdd â chymar delfrydol ar y we, heb sylweddoli bod hwnnw'n byw ar yr un stryd â hi. Mae'n cael ei rhwydo a'i thwyllo gan Y Stelciwr .

Disgrifiad Saesneg / English Description

Einir looks online for a partner, without realising that he lives in the same street. She is snared and deceived by the stalker. A tension-packed short novel in the 'Stori Sydyn' series. Written for the Quick Reads literacy scheme.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784613785
Gwales Code
gwales.com.9781784613785
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori Sydyn: Y Stelciwr
Awdur / Author
Ros, Manon Steffan
Current Price ex VAT
£1.00
Current Price inc VAT
£1.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-01-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
74 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Gweledigaeth fawr y byd llyfrau Cymraeg yw’r gyfres Stori Sydyn, a'i nod yn syml yw sichrau bod modd darllen y cynnwys mewn byr amser ac annog y darllenydd i ddarllen ymhellach. Bûm braidd yn hir cyn dechrau agor cloriau'r gyfrol hon gan Manon Steffan Ros, ond wedi i mi ddechrau ar y darllen allwn i ddim mo’i gollwng. Nid wyf am ddatgelu'r stori yn ormodol, ond fel mae’r teitl yn ei awgrymu, stori'r stelciwr sydd yma ac fel y mae e’n gweld y byd. Mae’r cyfan yn sinistr a brawychus ac fe ellir gweld sut y mae gweinion ein cymdeithas yn medru cael eu hudo. Ar adegau, mae rhywun yn cydymdeimlo â’r stelciwr wrth i un celwydd arwain at y nesaf, a’r cyfan yn troi’n un bywyd o fyw celwydd. Tristwch hefyd yw gwybod bod cymeriadau fel Einir yn ein cymdeithas, a gellir gweld sut y mae hi’n cael ei sugno i mewn i’r cyfan, a hynny er mwyn gwireddu disgwyliadau cymdeithas. Yr hyn sy’n bwysig mewn cyfrolau fel hyn yw stori gref sy’n cymell y darllen. Yn wir, mae’r stori hon gan Manon Steffan Ros fel rhyw ffilm ond eto mae'n gwbl gredadwy. Os oes gennych chi awr i'w sbario ac angen rhywbeth difyr i’w ddarllen dyma’r gyfrol i chi. Mae hi hefyd yn gwbl addas i’r sawl nad yw'n gyfarwydd â darllen llyfrau Cymraeg, gan fod y pwyslais ar y stori yn hytrach na’r arddull. Cofiwch mai £1 yw pris y gyfrol – bargen go iawn!

View full details