Cyngor Llyfrau Cymru
Straeon Nos Da Sali Mali
Straeon Nos Da Sali Mali
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol hardd fydd yn anrheg arbennig i unrhyw blentyn bach neu deulu. Mae 12 o awduron enwog a phoblogaidd Cymru yn creu straeon i'w darllen i blant am anturiaethau Sali Mali, Jac Do a'u ffrindiau. Llyfr i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys clawr realiti estynedig.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The perfect gift for any child or family. 12 popular Welsh language authors come together to tell stories and adventures of Sali Mali, Jac Do and their friends. A book celebrating Sali Mali's 50th birthday. This book also includes an augmented reality cover.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848519893
- Gwales Code
- gwales.com.9781848519893
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Straeon Nos Da Sali Mali
- Awdur / Author
- Amrywiol/Various
- Current Price ex VAT
- £12.99
- Current Price inc VAT
- £12.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-07-10
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Atebol
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 64 pages
- Size
- 173 × 247 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Awduron: Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Gruffudd Owen, Heledd Cynwal, Elen Pencwm, Bethan Gwanas, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Ifana Savill
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r rhestr o awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon yn amrywiol iawn, o Mererid Hopwood i Tudur Owen, o Eigra Lewis Roberts i Rhys Ifans, a llawer mwy. Ac mae gweld yr enwau cyfarwydd ar y clawr yn denu oedolion at y gyfrol yn sicr, gan wneud hwn yn anrheg berffaith i blant a'u teuluoedd. A beth am ddechrau gyda’r clawr? Mae’n wahanol i’r arfer am ei fod yn glawr realiti estynedig ( augmented reality ), sy’n golygu bod golygfa fach wedi ei hanimeiddio yn ymddangos pan fyddwch chi’n sganio’r clawr ar eich ffôn neu dabled trwy ap o’r enw Zappar – am ddechrau gwych i blant bach, cael gweld Sali Mali a Jac Do, cymeriadau hoffus a chyfarwydd, cyn agor y llyfr a darllen yr un gair, hyd yn oed! Ac er nad oes modd rhyngweithio â nhw, mae’n ychwanegiad bach difyr a deniadol i’r gyfrol. Rhwng y ddau glawr ceir amrywiaeth o straeon sydd yn wahanol yn eu harddull i’r llyfrau Sali Mali gwreiddiol a thraddodiadol, gan mai straeon i’w darllen i blant bach ydi’r rhain, yn hytrach na llyfrau i blant ddechrau dysgu darllen ar eu pen eu hunain. Serch hynny, mae hanfodion y cymeriadau rydyn ni wedi dod i’w hadnabod a’u caru’r un peth: Jac y Jwc a’i droeon trwstan ond â chalon fawr, Sali Mali drefnus a charedig, y Pry Bach Tew drygionus, ac mae’r criw i gyd yn ymddangos yn eu tro. Wrth gwrs, gall plant hŷn a darllenwyr iau hyderus ddarllen y rhain, ond teimlaf efallai fod rhai o'r straeon yn rhy syml neu'n blentynnaidd iddyn nhw, o bosib. Fel sy’n nodweddiadol o straeon i blant bach, mae neges syml i bob stori unigol wrth iddyn nhw drafod themâu megis cyfeillgarwch, caredigrwydd, dewrder a chydweithio. Roeddwn i’n falch iawn bod hiwmor yn elfen amlwg yn y rhan fwyaf o’r straeon hefyd, a chredaf y bydd plant yn mwynhau’r sefyllfaoedd sy’n codi ac yn chwerthin yn uchel ar rai o’r straeon. Fy hoff straeon i oedd 'Swigod a Sgorio' gan Gruffudd Owen, 'Y Picnic' gan Elen Pencwm, 'Triciau’r Pry Bach Tew' gan Bethan Gwanas ac 'Anrheg Jac y Jwc' gan Aneirin Karadog. Ond mae yma ddigon o amrywiaeth gan lu o awduron gwych, a bydd gan bob aelod o’r teulu ei ffefryn, yn bendant!
Share
