Cyngor Llyfrau Cymru
Sut Dwi'n Teimlo - Dysga i Garu dy Deimladau
Sut Dwi'n Teimlo - Dysga i Garu dy Deimladau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Addasiad Cymraeg Elin Meek o My Mixed Emotions , llyfr swynol a meddylgar yn llawn o gynghorion a thechnegau i gynorthwyo plant i adnabod ac i fynegi eu teimladau. Gall teimladau fod yn gymhleth, ac mae dysgu sut i'w mynegi yn sgil sydd angen ei feithrin.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This thoughtful, engaging book is packed with helpful hints, tips, and techniques for helping children learn to recognise and express their emotions. Feelings can be complicated, and learning to express them is a skill that must be developed. A Welsh adaptation by Elin Meek of Mixed Emotions .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849674218
- Gwales Code
- gwales.com.9781849674218
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sut Dwi'n Teimlo - Dysga i Garu dy Deimladau
- Awdur / Author
- Healy, Maureen; DK
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-09-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Meek, Elin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 195 × 233 mm; depth 8 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma addasiad Cymraeg Elin Meek o’r llyfr My Mixed Emotions , sy’n ganllaw i blant ynghylch adnabod a dysgu am eu teimladau. Mae’r llyfr lliwgar a deniadol hwn wedi ei rannu’n bedwar categori sy’n ymdrin â ‘phedwar o’r emosiynau mawr’, sef hapusrwydd, dicter, ofn a thristwch. Yn ogystal â darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac addas i blant mewn iaith syml, mae’r llyfr yn cynnwys gweithgareddau sy’n eu hannog i feddwl am eu teimladau eu hunain, ac i gymhwyso’r wybodaeth yn y llyfr i’w bywydau nhw. Er enghraifft, cânt eu hannog i feddwl am ansoddeiriau cadarnhaol i’w disgrifio eu hunain. Ceir hefyd ymarferion anadlu a ioga syml, ac awgrymiadau ar weithgareddau i ymlacio ac i fod yn fwy meddylgar. Fel mae isdeitl y llyfr, ‘Dysga i garu dy deimladau’, yn ei awgrymu, mae’r llyfr yn dysgu plant i dderbyn eu teimladau yn hytrach na’u hosgoi. Cânt eu dysgu fod pob teimlad, gan gynnwys dicter, ofn a thristwch, yn bwysig a’u bod yn iawn i’w dangos a’u mynegi. Ar ddiwedd y llyfr ceir ‘geiriadur emosiynau’ sy’n llawn termau a disgrifiadau i ddisgrifio emosiynau a theimladau, i alluogi plant i fynegi sut maen nhw’n teimlo. Rhwng pob pennod ceir dyfyniad perthnasol; rhai ohonynt yn gyfieithiadau o ddyfyniadau Saesneg ac eraill yn ddyfyniadau Cymraeg gwreiddiol. Yn hynny o beth, rwy’n gobeithio y bydd y llyfr hwn yn sbarduno rhagor o lyfrau Cymraeg gwreiddiol am les ac iechyd meddwl. Trafodir rhai o bryderon cyffredin ymhlith plant, megis profion, problemau yn y teulu a chweryla â ffrindiau. Ceir hefyd awgrymiadau ar sut i ymdopi â phrofiadau anodd megis dechrau mewn ysgol newydd, rhieni’n gwahanu neu’n ysgaru, bwlio, a theimlo’n ‘wahanol’. Mae hyn yn werthfawr gan ei fod yn gwneud i blant sylweddoli nad nhw yw’r unig rai sy’n profi’r teimladau neu’r profiadau anodd hyn. Fodd bynnag, mae un pwnc amlwg ar goll, sef galar. Er bod rhan o’r llyfr yn sôn am golli anifail anwes, mae’r awdur yn osgoi cyfeirio at farwolaeth pobl, er bod nifer o blant yn colli rhywun agos iddynt ac angen gwybod sut i ymdopi. Byddai rhoi sylw penodol i farwolaeth, gyda gwybodaeth ar sut i ymdopi â galar, yn fuddiol er mwyn cydnabod ei fod yn digwydd ac yn rhan o fywyd. Er hynny, credaf fod y llyfr hwn yn un gwerthfawr iawn gan ei fod yn medru cael ei ddefnyddio i ddechrau sgwrs naturiol am iechyd meddwl a lles mewn teuluoedd. Er bod Sut Dwi’n Teimlo wedi ei anelu at blant, byswn i’n dadlau ei fod hefyd yn addas ar gyfer pobl o unrhyw oed sydd efallai’n cael trafferth canolbwyntio, neu nad oes arnynt awydd darllen llyfr trwm ei gynnwys ar les. Wedi’r cyfan, gall bob un ohonom fanteisio ar gyngor ar sut i edrych ar ôl ein hunain. Rwy’n falch o weld y llyfr hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn bwysig ein bod ni gyd yn dysgu, o oed ifanc, sut i adnabod, derbyn ac ymdopi â’n hemosiynau mewn ffyrdd cadarnhaol, a thrwy hynny yn medru cydnabod pryd y bydd angen cymorth ychwanegol arnom. Mae gan bawb iechyd meddwl, ac mae angen i ni gyd ddysgu sut i ofalu amdano. Pa ffordd well, felly, nag arfogi plant â’r sgiliau i adnabod ac i ymdopi â’u teimladau drwy’r llyfr hwn?
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Sut Dwi'n Teimlo is here to coach children through a variety of emotions and situations including dealing with bullying, understanding grief and divorce.
Share
