Cyngor Llyfrau Cymru
Tafod y Ddraig / The Dragon's Tongue
Tafod y Ddraig / The Dragon's Tongue
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori rhannol ddwyieithog yw Tafod y Ddraig / The Dragon's Tongue am fachgen sy'n gorchfygu'r bwlis wrth ganfod ei lais a'i iaith ei hun mewn coedwig gyfrin.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Inspired by his Welsh heritage, the boy in Tafod y Ddraig / The Dragon's Tongue shakes off the shackles of bullying to find his own voice and his own language within a mystical forest. A charming, partly bilingual story.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781999597368
- Gwales Code
- gwales.com.9781999597368
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tafod y Ddraig / The Dragon's Tongue
- Awdur / Author
- Church, Mike
- Current Price ex VAT
- £3.99
- Current Price inc VAT
- £3.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-07-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Petra Publishing
- Darlunydd / Illustrator
- Owen, Sion Tomos
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 36 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rydan ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog, ac mae yna deuluoedd a chymunedau yn bodoli lle mae’r ddwy iaith yn gymysg. Ond tydan ni ddim bob tro yn gallu cyfleu’r cymysgwch naturiol yma trwy’n diwylliant. Yn aml, mae rhywun yn gwyro tuag at un iaith yn benodol i rannu ei stori, sy’n gwbwl iawn, wrth gwrs. Ond pan mae ’na gyfle i adlewyrchu hyn, mae’n bosib i ryw hud a lledrith ddigwydd. Dyna gewch chi yn y llyfr hwn, sef nodyn i’n hatgoffa nad oes rhaid dewis rhwng y ddwy iaith. Mae’n wir mai’r Gymraeg sy’n colli ei lle ar dafodau pan mae dewis yn cael ei wneud fel rheol. Ond mae Mike Church a Siôn Tomos Owen, trwy gyfrwng y stori hon, yn ceisio rhoi hyder i'r rheini sy’n dewis peidio defnyddio’r Gymraeg i fynd yn ôl ati gan ei bod hi’n rhan o pwy ydan ni fel cenedl. Wedi’r cyfan, mae hon yn iaith sydd â chryfder a dewrder Draig ynddi. Mae hi’n stori syml ond mae yna ddyfnder yma sy’n golygu y gall hi blesio ystod o oedran. Mae yma antur, hud, emosiwn a’r awgrym ei bod hi’n stori wir! Gall y plant hynny sy’n ddigon abl i'w darllen drostyn nhw eu hunain ei mwynhau, a chael rhywbeth i gnoi cil arno wedi iddyn nhw orffen. Mae’n annog trafodaeth am hunaniaeth y byddai o werth i unrhyw blentyn ei chael gyda rhiant. Stori wedi ei sgwennu yn Saesneg ydi hi ond gyda chymalau allweddol yn y Gymraeg. Mae’r sgwennu yn ddigon ystwyth a chlyfar fel nad oes rhwystr i unrhyw un di-Gymraeg. Mae popeth sy’n cael ei ddweud yn Gymraeg i’w ganfod yn Saesneg yn rhywle rhwng y cloriau. Mae’n amlwg fod y stori yn agos at galon yr awdur hefyd wrth i ni gael cip emosiynol ar daith Dewi i ddarganfod ei lais – sylwer mai darganfod llais sydd yn bwysig yma, nid darganfod iaith. Mae darluniau Siôn Tomos Owen yn hynod o fyw a deinamig. Mae ’na symud yma sy’n rhoi rhyw finiogrwydd i’r cyfan gan awgrymu nad stori i blant yn unig yw hon. Dylai’r dyluniad apelio at y rheini nad ydynt yn troi at lyfrau yn aml. Dwi’n credu fod Siôn a Mike wedi llwyddo i blethu’r dychymyg a’r gwirionedd sydd yn y stori hon yn glyfar iawn. Darllenwch hi a thrafodwch hi.
Share
