Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Taid/Tad-cu

Taid/Tad-cu

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nifer o awduron yn portreadu taid neu dad-cu: Huw Chiswell, Gruffudd Antur, Dafydd Emyr, Gwyneth Glyn, Margarette Hughes, Rhys Iorwerth, Dafydd Iwan, Dafydd Huw James, Aneirin Karadog, Gwyn Llewelyn, Gwion Richards, Dewi Huw Owen, Gwyn Thomas. Dilyniant i Nain/Mam-gu .

Disgrifiad Saesneg / English Description

A compilation of poems and writings about grandfathers; a follow-up to Nain/Mam-gu with contributions by Huw Chiswell, Gruffudd Antur, Dafydd Emyr, Gwyneth Glyn, Margarette Hughes, Rhys Iorwerth, Dafydd Iwan, Dafydd Huw James, Aneirin Karadog, Gwyn Llewelyn, Gwion Richards, Dewi Huw Owen, and Gwyn Thomas.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742739
Gwales Code
gwales.com.9780860742739
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Taid/Tad-cu
Awdur / Author
Amrywiol/Various
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-11-21
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
128 pages
Size
129 × 198 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cwyn yn gyntaf. Nain/Mam-gu (2010) – 138 tudalen. Taid/Tad-cu – dim ond 126 tudalen! Mae Nain, felly, yn cael mwy o ofod ac felly fwy o sylw, ac fel taid rwyf yn teimlo fod hyn yn annheg! Wedi’r gŵyn, rhaid cydnabod bod yna degwch hefyd. Deuddeg portread a cherdd sydd yn y ddwy gyfrol ac y mae'n fargen am lai na chwe phunt. Mae cloriau Dorry Spikes, er yr un cynllun, yn wahanol eu cynnwys ac yn gloriau lliwgar, llawen sy'n gweddu i'r cynnwys i'r dim. Cyfrol am berthynas rhwng dwy genhedlaeth yw hon ac y mae’n adlewyrchu’r cyfoeth sydd yn y berthynas honno yn yr amrywiaeth o bortreadau o safbwynt cynnwys, arddull a’r adnabod. Dim ond dau awdur sy'n ysgrifennu am deidiau na welsant erioed. Dewis ysgrifennu am ei hen daid (a fu farw pan oedd ei nain yn ddim ond 14 oed) a wnaeth Gruffudd Antur ac er bod ei bortread o Caradog a’i gyfraniad mawr i ddiwylliant ei fro a’i wlad yn ddifyr a diddorol, mae’r awdur yn cydnabod mai ‘o ran’ y mae’n adnabod ac fe fyddai’r ysgrif yn gorwedd yn well mewn cyfrol am ‘hen deidiau’. Er nad adnabu Dafydd Emyr ei daid o gwbwl (ond y mae ganddo yr un ‘blewyn strae’ ar ei ael) mae stori arwrol ei daid wedi ei wneud ‘yr arwr mwyaf’ i’w ŵyr hefyd. Mae yma dri phortread sydd yn deillio o un cyfarfyddiad neu un atgof. Pedair oed oedd Rhys Iorwerth pan welodd ei dad-cu am y tro olaf yn yr ysbyty, ond y mae'r atgof yn sail i ysgrif onest a chynnes. Cof plentyn pedair oed o'i dad-cu sydd gan Dafydd Iwan hefyd, ond yn wahanol i Rhys Iorwerth, y mae ganddo ef bortread o ŵr adnabyddus o dras enwog y Cilie. Sonia Gwyn Llewelyn am yr unig dro, ac yntau hefyd yn blentyn bach, iddo gyfarfod â’i daid, Tomi Tan Tŵr, er iddo'i weld rai bynyddoedd wedyn, ond heb sgwrsio ag ef. Mae dirgelwch gonest yn y portread hwn o gymeriad unigryw yr oedd pawb ond ei ŵyr ei hun yn ei adnabod. Mae’r portreadau eraill yn ffrwyth adnabod, gwerthfawrogi a charu, ac yn yr ysgrifau hyn mae cyfoeth y perthyn i’w weld. Dyna a gawn gan Huw Chiswell (Tad-cu Phill), Gwyneth Glyn (Taid Criciath), Margarette Hughes (Tad-cu Cwerchyr), Dafydd James (Jack Saer) ac Aneirin Karadog (Jack Stockley). Mae’r ysgrifennu yn raenus a difyr ac y mae’r amrywiaeth o ran cefndir cymdeithasol a theuluol yn ddiddorol, yn gyfoethog, ac yn hwyliog iawn. Mae’r wyrion hyn yn ddigon ‘hen’ i werthfawrogi a thrysori'r berthynas unigryw honno â'u teidiau, a’u dawn greadigol yn ddigon lliwgar i’w mynegi’n gofiadwy. Mae cyfraniad Dewi Huw Owen ar ffurf ‘Llythyr Dat-cu’ at ei ŵyr, Siôn Bach, wedi ei ysgrifennu’n gelfydd mewn tafodiaith hyfryd. Ond ai tad-cu dychmygol yw hwn, ac ai cyfrinach rhyngddo ef a’i ŵyr sy’n cael ei datgelu am y tro cyntaf yw testun yr ysgrif? Ar un olwg, nid portread yw hwn fel y gweddill yn y gyfrol. Eto mae yma ymddiriedaeth a chyfrinach sydd yn rhan o fywyd pob teulu. Portread plentyn un ar ddeg oed yw un Gwion Llwyd o Taid Lluest ac mae symlrwydd ei bortread ohono’n ‘hen ddyn direidus, efo bol fel balŵn bron â byrstio’ yn glo ardderchog i gyfrol werthfawr arall gan Wasg Gwynedd. Mae’r adolygiad hwn yn rhy hwyr i’r farchnad Nadolig, ond mae pob taid yn cael pen-blwydd ac yn cael, gobeithio, seibiant i ddarllen – pan na fydd yn diddori’r wyrion neu'n eu cludo yn y car i wers neu glwb neu gerddorfa neu gêm neu gapel ...

View full details