Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Tair Rheol Anhrefn - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011

Tair Rheol Anhrefn - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011

Regular price £8.95 GBP
Regular price Sale price £8.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Rheol 1: Allwch chi ddim ennill y gêm. Rheol 2: Yr unig ganlyniad posib fydd colli'r gêm. Rheol 3: Allwch chi byth ddianc rhag y gêm. Ydych chi'n ddigon dewr i chwarae? Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro, 2011.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Rule 1: You cannot win the game. Rule 2: The only possible result is to lose the game. Rule 3: You will never be able to escape from the game. Are you brave enough to play? This novel was awarded the Daniel Owen Memorial Prize at the 2011 National Eisteddfod.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847714039
Gwales Code
gwales.com.9781847714039
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Tair Rheol Anhrefn - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011
Awdur / Author
Davies, Daniel
Current Price ex VAT
£8.95
Current Price inc VAT
£8.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-05-29
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
272 pages
Size
128 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel draddodiadol glasurol yw hon, ond mewn gwisg gwbl gyfoes. Yn ôl cyfaddefiad yr awdur ei hun, ei hoff storïau antur yw clasuron fel nofel John Buchan, The Thirty-nine Steps , a ffilmiau fel clasur Hitchcock, North by Northwest . Yr hyn sy’n gwneud Tair Rheol Anhrefn yn wahanol yw’r ffaith mai ei chraidd yw masnacheiddiwch a phrynoliaeth. Mae hi’n ymwneud yn uniongyrchol â’r farchnad defnyddwyr sy’n rheoli pob agwedd o’n bywyd. Yn syml, mae dau wyddonydd wedi darganfod dyfais a allai weddnewid y byd teledu, sef crisial hylifol sy’n creu lluniau cliriach na hyd yn oed y rhai a geir ar sgriniau plasma. Daw hyn i glustiau cwmnïau a allent gael eu heffeithio’n andwyol. Y bwriad felly yw canfod y fformiwla. Y neges yn syml yw: rheolwch ein harferion neu’n dull o wylio ac fe reolwch y byd. Yma, nid y byd mawr y tu allan yn unig gaiff ei fygwth gan gyfalafiaeth. Mae’n bygwth hefyd y Brifysgol lle mae’r ddau wyddonydd yn gweithio. Strwythur y plot yw taith ar hyd llwybr arfordirol sir Benfro gan un o’r partneriaid i chwilio am y fformiwla a guddiwyd gan y llall. Mae yna gliwiau cyfrwys i’w dilyn. Cyflwynir ni i gymeriadau rhyfedd iawn. A daw’n glir yn fuan iawn nad yw'r un ohonynt, mewn gwirionedd, yr hyn a ymddangosant. Cawn elfennau o’r CIA, MI6 a hyd yn oed Mossad, sef asiantaeth gudd Israel yn eu plith. Yn ffrâm i’r cyfan mae’r daith. Honno sy’n cynnal ac yn gyrru’r stori yn ei blaen. Ac mae i’r stori fwy o droeon a throellau nag sydd i’r llwybr arfordirol ei hun. Mae hi’n symud mor gyflym fel bod prin amser i dynnu anadl. Eto i gyd, er gwaethaf holl gymhlethdod y plot mae’r rysáit yn un gwbl syml: stori dda, cymeriadau cig a gwaed, dyfeisgarwch ac, yn bwysicach na dim, pinsied helaeth o hiwmor. Dengys yr awdur wybodaeth helaeth o faterion y tu allan i anghenion y plot ond ni wna unwaith syrthio i’r fagl o fod yn orglyfar. Dihangdod yw’r gair addas, mae’n debyg. Ffuglen, yng ngwir ystyr y gair. Dyma’r nofel ddelfrydol ar gyfer ffoi o’r byd go iawn. Ond tybed? Onid nofel am y byd go iawn ydi hi? Ynddi mae llywodraethau’n llawforynion i’r cwmnïau masnachol anferth. A phan gofiwch mai Rupert Murdoch yw’r person mwyaf pwerus yn y byd, a yw’r syniad yn un mor anodd â hynny i’w dderbyn?

View full details