Cyngor Llyfrau Cymru
Taith i Rufain
Taith i Rufain
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Pumed llyfr taith Roger Boore, y teithiwr diddan a deallus, diwylliedig a gwybodus yn cynnwys y gwead gogleisiol arferol o'r presennol a'r dyfodol. Y tro hwn, cawn grwydro Rhufain yn ei gwmni ef a'i wraig Anne.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A fifth travel book by cultured and intelligent traveller Roger Boore. This time we join him and his wife Anne on an entertaining and well-informed tour of Rome.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784230791
- Gwales Code
- gwales.com.9781784230791
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Taith i Rufain
- Awdur / Author
- Boore, Roger
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-09-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 124 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’n amlwg bod gan Roger Boore ddealltwriaeth eang a chynhwysfawr o hanes Rhufain, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Wrth iddo grwydro strydoedd Rhufain mae’n adrodd hanes ymerawdwyr a phabyddion, a chymaint o adeiladau, gwaith celf a cherfluniau’r ddinas. Mae’r darn am hanes uno’r wlad yn arbennig o ddiddorol, yn enwedig rôl teyrnas Sardinia yn y 19eg ganrif a sut y tynnwyd Fenis a Thaleithiau’r Pab i mewn i’r wlad newydd. Mae’r stori am ddwy long ryfel Brydeinig yn gwylio harbwr Marsala yn ddifyr – yno yn unswydd i ofalu am eiddo cwmni o Brydain oedd yn allforio’r gwin melys i Lundain. Mae’r awdur yn amlwg yn dwlu ar hanes cynnar Rhufain, gan roi i ni fanylion arweinwyr yr ymerodraeth megis Nero, Vespasianus a Vitellius, a thynged erchyll cymaint ohonynt – fel Galba a gollodd ei ben ar ôl rheoli am 207 o ddyddiau yn unig. Roedd ei elyn Otho yn gyfrwys! Gan neidio'n sydyn o'r bedwaredd ganrif, y mae Boore yn ein tynnu’n ôl i’r presennol ac fe gawn rannu hufen iâ gydag e a’i wraig a chael stori fach fywiog – fel hanes y cwpwl cefnog o Awstralia y bu iddyn nhw eu cyfarfod ger y Grisiau Sbaenaidd. Mae stori ymweliad yr awdur a’i wraig yn hanesion bachog ac mi fydden i wedi hoffi darllen mwy ohonynt, ac efallai cael mwy o ddarlun o’r ddinas trwy eu llygaid hwy. Y mae manylder yr hanes cynnar yn y llyfr ychydig yn rhy fanwl ar adegau, ond wedyn mae’r darllenydd yn cael clywed o ble daw’r ymadrodd “canu’r crwth tra bod Rhufain yn llosgi”, ac mae storïau’r baddondai a beth fyddai yn digwydd mewn cyfleusterau cyhoeddus yn lliwgar iawn. Un o’r darnau eraill oedd yn fyw iawn oedd hanes y traciau rasio a sioeau’r bwystfilod a gludwyd i Rufain er mwyn eu harddangos ac yna eu hela a’u lladd yn gyhoeddus. A’r gladiatoriaid hynny rydym yn eu cysylltu â’r Rhufain hynafol – mae eu hanes yn gaethion yn cael eu prynu am eu nerth corfforol yn tanlinellu creulondeb eithriadol y cyfnod. Mae yma lawer iawn o hanes a chronoleg gynhwysfawr o gyfnod cynnar sy’n ddiarth i gynifer ohonom ac mae’r awdur yn amlwg wrth ei fodd gyda’r oes, a hefyd wrth ei fodd yn rhannu’r wybodaeth gyda ni. Yn bersonol mi hoffwn weld hanes mwy diweddar y wlad yn cael yr un driniaeth fanwl ond mae’n bosib iawn bod hynny ar y gweill mewn cyfrol arall – cawn weld.
Share
