Cyngor Llyfrau Cymru
Teigr yn y Gegin
Teigr yn y Gegin
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol gyntaf o gerddi i blant gan y bardd a'r awdur talentog, Hywel Griffiths. Ceir yma gerddi hwyliog a lliwgar am gymeriadau difyr fel Gwrach Cors Fachno a Hen Fodryb Lili, cerddi am brofiadau cyfarwydd a cherddi sy'n cael hwyl a sbri wrth chwarae ar eiriau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
His first volume of poems for children by the talented poet, Hywel Griffiths. The collection comprises lively poems about such entertaining characters as the Witch of Cors Fochno and Great-aunt Lili, poems about familiar experiences and poems full of fun whilst playing with words.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848517226
- Gwales Code
- gwales.com.9781848517226
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Teigr yn y Gegin
- Awdur / Author
- Griffiths, Hywel
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-07-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Breckon, Brett
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 132 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cafodd Hywel Griffiths ei fagu ger pentref Llangynog Sir Gaerfyrddin a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin lle dysgodd y cynganeddion yng nghwmni Eurig Salisbury. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ac mae’n darlithio yno drwy’r Gymraeg yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Cyrhaeddodd ei gyfrol, Banerog (Y Lolfa, 2009), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010. Ef yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gasgliad o gerddi newydd i blant Cymru gan y Prifardd Hywel Griffiths. Ydyn, maen nhw’n sbwci ac yn swynol ac yn rhai bach sydyn mae modd eu darllen yn yr ysgol neu cyn mynd i’r gwely – os dach chi’n ddigon dewr! Yn y casgliad yma, mae sôn am wrachod dychrynllyd, tywydd garw’r gaeaf a llefydd llawn hanes. Cawn yma hefyd gipolwg ar lefydd arbennig yng Nghymru yn ogystal â rhai o’i phobl, ac mae hyn yn sicr o ennyn diddordeb. Yn hiraethus ac yn hapus ar adegau, mae lleoedd fel Ponty, Yr Ystog, Ystagbwll, Cors Fochno a hyd yn oed y Llyfrgell Genedlaethol yn dod yn bynciau i gerddi newydd sbon, ac fe ddigwydd hyn drwy edrych ar eu hanes a’r hud sydd iddynt yn aml iawn. Yna, ar yr un gwynt, clywn sôn am Fodlen y Gath a’i sawl cymeriad, ac mae yma felly amrywiaeth ddi-ri o destunau. 'Adroddwch yr enwau A blaswch lythrennau. Y gwirion yw’r gorau Dros Gymru i gyd!’ A beth gebyst yw ‘sbwbio’ ar ddiwedd y dydd? Mae hwn yn benbleth i’r darllenydd yn ogystal â’r bardd! Mae’r rhain yn gerddi bendigedig i blant Cymru er mwyn iddyn nhw ddod i adwaen geiriau ac enwau lleoedd newydd. Mae'r cerddi hefyd yn sbarduno awydd am wybod mwy am yr hyn sydd y tu ôl i bob cerdd. Dyma gyfrol y dylid ei chael ar silff yn y dosbarth a'r ystafell wely.
Share
