Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

The Hill Farmer - Gareth Wyn Jones — The Autobiography of Gareth Wyn Jones

The Hill Farmer - Gareth Wyn Jones — The Autobiography of Gareth Wyn Jones

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hunangofiant un o sêr cynnar y gyfres deledu Fferm Ffactor, Gareth Wyn Jones. Dyma ffarmwr sy'n barod i ddweud ei farn, ac sy'n gymeriad adnabyddus yn y byd amaethyddol. Mae'n byw yn Llanfairfechan, yn faer ac yn ymwneud â sawl cymdeithas amaethyddol, yn arbennig rhai cŵn a merlod mynydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The autobiography of Welsh hill farmer Gareth Wyn Jones who came to national prominence in the aftermath of the severe snowstorm which hit his farm in the Carneddau mountain range of north Wales in March 2013. Star of the recent TV series The Hill Farm, he has appeared on television and radio countless times promoting countryside issues.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784610067
Gwales Code
gwales.com.9781784610067
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
The Hill Farmer - Gareth Wyn Jones — The Autobiography of Gareth Wyn Jones
Sub Title
The Autobiography of Gareth Wyn Jones
Awdur / Author
Jones, Gareth Wyn; Pritchard, Elfyn
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-02-22
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Language Code
English
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Saesneg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in English)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Saesneg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in English)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

O Fferm Ffactor i’r BAFTA’s Anaml iawn y gwelwch chi ffarmwr mynydd o Gymru yn cyhoeddi llyfr, cael ei enwebu am wobr BAFTA ac am wobr amaethyddol Farming Hero yn yr un mis! Dyna’n union sy’n digwydd i Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan, enw amlwg ar Twitter a Facebook ac wyneb cyfarwydd yn ystod stormydd eira trymion Mawrth 2013. Cafodd ffilm ohono’n tynnu defaid a merlod mynydd o’r lluwchfeydd dros 6000,000 o hits ar YouTube yn unig. Yn dilyn llwyddiant ei hunangofiant, Mab y Mynydd (2012), cyhoeddir ei gyfrol Saesneg gonest a dadlennol, The Hill Farmer . Er fod fferm Ty’n Llwyfan, lle mae Gareth a’i deulu wedi bod yn ffermio ers deg cenhedlaeth, yn fferm ynysig ynghanol mynyddoedd y Carneddau, daeth yn ganolbwynt sylw’r wasg y llynedd. Rhoddodd hyn gyfle i Gareth ofyn am degwch i’r ffermwyr a gollodd gymaint o’u hanifeiliaid yn y stormydd. Pwysodd ar wleidyddion a gweision sifil i newid rheolau’r Undeb Ewropeaidd ynghylch claddu anifeiliaid ar dir ffermydd, dros dro. “Mae’n nhad yn 77, welodd o erioed y fath eira mor hwyr yn y flwyddyn,” meddai Gareth. “Roedd gen i fy ngwn ar f’ysgwydd ac os oedd rhaid i mi dynnu dwy ddafad o’r eira, rhaid oedd dewis pa un oedd gryfaf a phenderfynu saethu’r un arall gan nad oedd modd cario’r ddwy i lawr i’r fferm. Yn yr amser byddai’n cymryd i gario un ddafad i ddiogelwch y fferm, byddai’r adar wedi pigo llygaid y llall.” Digwyddodd hyn oll yn ystod cyfnod ffilmio The Hill Farm, rhaglen ddogfen ar gyfer y BBC gan gwmni Indus o Gaerdydd. Roedd hyn, hefyd, yn bwysau ychwanegol ar Gareth yn ystod cyfnod argyfyngus. Mae Gareth yn barod iawn i fynegi barn a dyma un o’r rhesymau y bu iddo gael ei ddewis i gymryd rhan mewn rhaglenni eraill megis, Mountain gyda Griff Rhys Jones, Snowdonia 1890, School of Hard Knocks – a hefyd fel cystadleuydd ar raglen Come Dine with Me! “Yn y diwydiant ffermio yng Nghymru, rydym ni’n eithriadol o dda am gynhyrchu cynnyrch o safon ond yn da i ddim am ei werthu,” meddai Gareth yn ei hunangofiant The Hill Farmer, sy’n cael ei lansio ddydd Sadwrn gan wasg Y Lolfa. “Mae’n debyg mai’r ffermwyr eu hunain sy’n rhannol gyfrifol am hynny gan nad ydym wedi mynd ati i chwalu’r ystrydeb o’r ffarmwr ar ben mynydd yn gafael mewn ffon ac yn gweiddi Get off my land! “Gwêl eraill ni fel rhai sy’n byw ar ofyn eraill gan erfyn am gynhaliaeth gan Ewrop gan lyncu grantiau cyn gyflymed ag y gallwn. Mae hyn yn ddarlun cwbl anghywir. Mae’r ffermwyr dwi’n eu hadnabod yn weithwyr caled tu hwnt sy’n cynhyrchu cynnyrch o’r safon uchaf.”

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Gareth Wyn Jones came to national prominence in the aftermath of the severe snowstorm which hit his farm in the Carneddau mountain range of north Wales in March 2013. Star of the recent TV series The Hill Farm, he has appeared on television and radio countless times promoting countryside issues. He has also appeared on Mountain with Griff Rhys Jones, Fferm Ffactor, Snowdonia 1890, and School of Hard Knocks.

View full details