Cyngor Llyfrau Cymru
Ti a dy Gorff
Ti a dy Gorff
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Canllaw cyflawn (a hollol ffiaidd) i'r corff dynol... Mae'r corff dynol yn eithriadol, yn ofnadwy o ddiddorol ac... wel, yn eitha rhyfedd. Mae dy gorff di'n rhyfedd. Mae fy nghorff i'n rhyfedd. Mae corff dy athro mathemateg yn rhyfeddach fyth. Dyma rai o'r cwestiynau fydd yn cael eu hateb: Ydy baw trwyn yn saff i'w fwyta? Faint o dy fywyd fyddi di'n ei dreulio ar y tŷ bach?
Disgrifiad Saesneg / English Description
Do you ever think about your body and how it works? The human body is extraordinary and fascinating and, well... pretty weird. Yours is weird, mine is weird, your maths teacher's is even weirder. This book is going to tell you what's actually gong on in there, and answer the really important questions like: Are bogeys safe to eat? How much time do you spend on the toilet?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781804162934
- Gwales Code
- gwales.com.9781804162934
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ti a dy Gorff
- Awdur / Author
- Kay, Adam
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-01-10
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Miles, Eiry
- Darlunydd / Illustrator
- Paker, Henry
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 416 pages
- Size
- 129 × 198 mm; depth 25 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Gwyddoniaeth - Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: Science - General (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C018072
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Adam Kay is an award-winning writer and former non-award-winning junior doctor. His first book, This is Going to Hurt: Secret Diaries of a Junior Doctor, was a Sunday Times number-one bestseller for over a year and has sold over 2.5 million copies. It has been translated into 37 languages, was the winner of four National Book Awards, including Book of the Year, and has been adapted into a major comedy drama for BBC/AMC starring Ben Whishaw. His second book, Twas the Nightshift Before Christmas, was an instant Sunday Times number-one bestseller and sold over 500k copies in its first few weeks. His compilation, Dear NHS, raised over £400k for charity. His memoir Undoctored: The Story of a Medic Who Ran Out of Patients was published in September 2022. His first children's book, Kay's Anatomy, was published in October 2020 and became the fastest-selling children's general non-fiction hardback of the decade and rights across Kay's Anatomy and Kay's Marvellous Medicine have now been sold in 28 languages.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ydach chi erioed wedi stopio i feddwl pa mor anhygoel ydi’r corff dynol? Mae o fel gorsaf bŵer, cyfrifiadur, peiriant a ffactori mewn un, ac yn gweithio’n hynod o effeithiol y rhan fwyaf o’r amser. A phan mae pethau’n mynd o’i le, mae ganddo hyd yn oed y gallu i drwsio ei hun! Waw. Cyn i’r rhieni neu’r athrawon gwyddoniaeth ddechrau cwyno nad yw cynnwys llyfr gan gomedïwr yn ddigon ‘gwyddonol,’ efallai y bydd yn syndod i chi gael gwybod fod yr awdur, Adam Kay, wedi bod yn ddoctor go iawn. Mi allwch chi ymddiried felly, ei fod o’n gwybod am be mae o’n sôn. Tydi hwn ddim fatha darllen yr hen werslyfrau llychlyd yn yr ysgol, achos mae steil y llyfr yn ysgafn a doniol. Er y dôn hwyliog, mae’n adnodd hynod o gynhwysfawr ac addysgiadol. Ar yr olwg gyntaf, edrycha fel llyfr swmpus dros ben, ond mae’r cynnwys yn hawdd i’w ddarllen. Mae lluniau cartŵn Henry Paker yn ychwanegu at yr hwyl ac yn torri’r testun yn ddarnau byrrach sy’n haws eu darllen. Wrth ein tywys o amgylch y corff dynol yn ei holl ogoniant, mae’r awdur yn drylwyr tu hwnt, gan holi nifer o arbenigwyr ar hyd y ffordd. Cawn ymweld â nifer o wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y prif organau, yr esgyrn, y cyhyrau a’r croen – gan enwi dim ond rhai. Mi wnes i wir fwynhau’r darnau sy’n trafod y system dreulio a thaith y bwyd holl ffordd o’r geg, nes iddo ddod allan o’r pen arall yn y rectwm (ia, dwi’n dilyn esiampl y llyfr ac yn defnyddio’r termau gwyddonol cywir). Nid pob llyfr sy’n gallu brolio’r ffaith fod ganddo ddarn cyfan i drafod pwps (neu ysgarthion, a bod yn hollol gywir)! Dwi’n siŵr y bydd sawl un yn mwynhau’r darn yma. Mae’n werth nodi, fel unrhyw lyfr gwerth ei halen sy’n trafod y corff, fod y llyfr yn ymweld â’r system atgenhedlu. Wrth reswm, felly, mae diagramau yn trafod gwaith yr organau pwysicaf ac yn defnyddio’r enwau gwyddonol cywir, ynghyd â thrafod y broses genhedlu mewn ffordd ffeithiol. Dwi’n credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i blant gael y wybodaeth wyddonol gywir, er mwyn osgoi camddealltwriaeth neu gamsyniadau. Wedi dweud hyn, mater i rieni fydd penderfynu a ydynt yn teimlo bod y cynnwys yn addas. Os wyt ti erioed wedi gorwedd yn dy wely yn meddwl am gwestiynau mawr y bydysawd, mae’n eithaf posib y gwnei di ffeindio’r atebion yn y llyfr yma. Cwestiynau fel ydi snot yn saff i’w fwyta? Neu faint o dy fywyd wyt ti wedi ei dreulio’n eistedd ar y toiled? Gydag isadrannau difyr fel ‘Cwestiynau Kay’ a ‘Gwir neu Gaca,’ rydach chi’n siŵr o ddarganfod ateb i gwestiynau na wnaethoch chi erioed feddwl eu gofyn! Ar ôl llowcio Ti a Dy Gorff o glawr i glawr, dwi wedi dod i’r canlyniad fod y corff dynol yn beth rhyfedd ar y diawl. Ond dwi hefyd wedi sylweddoli ei fod o’n hollol wyrthiol a rhyfeddol, felly cofiwch ofalu am eich corff chi – dim ond un gewch chi! Mae digon o ganllawiau ar sut i edrych ar ôl eich corff yn y llyfr, gyda llaw! Os ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio fod y llyfr yma’n osym, gwnewch ffafr â chi’ch hunain – bwydwch eich ymennydd drwy gael eich bachau ar gopi, a byddwch yn barod i fynd o dan groen y corff dynol – y peiriant mwyaf rhyfeddol fuodd ’na erioed!
Share
