Cyngor Llyfrau Cymru
Tipyn o'n Hanes: Stori'r Wladfa
Tipyn o'n Hanes: Stori'r Wladfa
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol gryno yn cynnig braslun o hanes y Wladfa o gyfnod ei sefydlu hyd heddiw yw hon, yn cynnwys cipolwg difyr ar wreiddiau'r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru ac ar eu dylanwad ar ddatblygiad Patagonia, ynghyd â llu o luniau ac awgrymiadau ar gyfer darllen pellach.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A concise and entertaining volume sketching the origins of the first Welsh settlers and their influence on the development of Patagonia, together with many photographs and further reading suggestions.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848512849
- Gwales Code
- gwales.com.9781848512849
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tipyn o'n Hanes: Stori'r Wladfa
- Awdur / Author
- Emlyn, Mari
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-11-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 168 × 240 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes - Arall (yn Gymraeg) | EN: History - Other (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
hunllef y dyddiau cynnar llongau’r Wladfa enwau cyfarwydd merched y Wladfa llofruddiaethau addysg crefydd llenyddiaeth cerddoriaeth ffilm a theledu am y Wladfa y Gymraeg a’r Sbaeneg Yma o Hyd
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganed Mari Emlyn yng Nghaerdydd a bu’n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Llanhari. Mae bellach wedi ymgartrefu yn y Felinheli ac yn fam i dri o blant. Mae’n actio ar y gyfres boblogaidd i blant ‘Rownd a Rownd’ ar S4C. Cyhoeddodd ddwy nofel Cam wrth Gam a Traed Oer ac mae hi wedi sgriptio ar gyfer sawl cyfres deledu gan gynnwys Pengelli a Tipyn o Stad. Mae hi wedi ymweld â’r Wladfa dair gwaith ac fe gyhoeddodd y gyfrol Llythyrau’r Wladfa 1865–1945 (Gwasg Carreg Gwalch) y llynedd.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Stori’r ymfudo i sefydlu Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yw un o’r straeon mwyaf arwrol a difyr yn ein hanes fel Cymry – ond er bod y mwyafrif ohonom yn gwybod am fodolaeth y Wladfa, faint sy’n gwybod mewn gwirionedd am fanylion yr hanes? Pam oedd angen ymfudo o Gymru yn y lle cyntaf? Pwy gafodd y syniad? Ble mae Patagonia, a sut le oedd yn disgwyl y fintai ar ôl cyrraedd? A faint o Gymraeg sydd yno heddiw? Mae Stori’r Wladfa , rhan o’r gyfres Tipyn o’n Hanes, yn ymgais i ateb rhai o’r cwestiynau hyn. Bu gan yr awdur Mari Emlyn ddiddordeb mawr yn hanes y Wladfa a’i phobl ers blynyddoedd, ac mae’r llyfr hwn yn gyfrwng i danio diddordeb cynulleidfa newydd. Mewn ffordd gryno a chlir, mae’r awdur yn cynnig braslun o hanes Patagonia – o’r Mimosa a Michael D. Jones i’r cynllun dysgu Cymraeg, y tai te, at Gruff Rhys a’r ffilm Separado! yn y cyfnod mwy diweddar. Mae’n gyfrol hynod hawdd i’w darllen, a’i diwyg yn atyniadol, diolch i’r llu o luniau lliwgar a difyr ar bob tudalen. Ceir yma hen ffotograffau a mapiau, lluniau golygfeydd a chymeriadau, a hyd yn oed un darlun gan Kyffin Williams. Mae’r testun wedi’i rannu i benawdau clir sy’n hawdd cyfeirio atynt, er enghraifft ‘Hunllef y Dyddiau Cynnar’, ‘Enwau’r Wladfa’ ac ‘Addysg a Diwylliant’. Enwau’r dynion sydd amlycaf mewn llyfrau hanes am sefydlu'r Wladfa fel rheol, megis Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, a’u hanturiaethau cyffrous. Y dynion fu'n ceisio trin y tir diffaith, ond y menywod oedd yn cynnal y teulu a'r cartref, a hynny dan amgylchiadau anodd iawn. Heb eu cryfder a'u penderfyniad, mae’n sicr na fyddai sefydlu’r Wladfa wedi bod yn llwyddiant, ac mae’n braf gweld sylw haeddiannol i'r merched yn y gyfrol hon. Dyma lyfr sy’n gyflwyniad ardderchog i stori arloesol y Wladfa, i bobl o bob oed. Y bwriad yw tanio diddordeb y darllenydd er mwyn ei sbarduno i ddarllen ymhellach, ac fe geir rhestr ddarllen ddefnyddiol ar ddiwedd y gyfrol. “Un o fethiannau godidocaf cenedl y Cymry” yw disgrifiad R. Bryn Williams o’r Wladfa, yn y dyfyniad ar gefn y llyfr, ond bron i ganrif a hanner wedi'r glaniad, mae disgynyddion y Gwladfawyr cyntaf yn dal i ymfalchïo ym menter a dygnwch eu cyndeidiau.
Share
