Cyngor Llyfrau Cymru
Tipyn O'n Hanes: Terfysgoedd Cymru
Tipyn O'n Hanes: Terfysgoedd Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cipolwg ar ein traddodiad ni fel Cymry o greu terfysg a gwrthryfela. Cawn glywed am fudiadau enwog fel Merched Beca a'r Siartwyr yn ogystal â hanesion llai cyfarwydd y terfysgoedd ŷd a chau tiroedd comin. O gyffro'r protestio i dywallt gwaed, down i adnabod ffigurau o bwys drwy brofi eu hangerdd i frwydro yn erbyn anghyfiawnder.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A look at iconic Welsh protests over the centuries.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848513594
- Gwales Code
- gwales.com.9781848513594
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tipyn O'n Hanes: Terfysgoedd Cymru
- Awdur / Author
- Morris, Bob
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-03-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 210 × 290 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yng nghyfrol ddiweddaraf y gyfres Tipyn o’n Hanes mae Bob Morris yn bwrw golwg ar y traddodiad o brotestio yng Nghymru. Ar glawr Terfysgoedd Cymru ceir print enwog o'r Illustrated London News yn portreadu Merched Beca yn ymosod ar dollborth, ond ceir hefyd ddarlun o'r orymdaith a gynhaliwyd yn 2011 er mwyn cofio terfysg Llanelli ganrif ynghynt. Mae hyn yn cyfleu nod y gyfrol, sef cyflwyno braslun o fudiadau protest a therfysgoedd yng Nghymru, nid yn unig y terfysgoedd mwya adnabyddus, ond hefyd y mudiadau sydd efallai’n llai adnabyddus. Ceir cyflwyniad cryno i’r gyfrol er mwyn gosod y pwnc yn ei gyd-destun, a nodi'r cysylltiadau rhwng y terfysgoedd a'r gymdeithas fodern. Yn wir, yn dilyn yr anhrefn a’r trais yn rhai o ddinasoedd Lloegr ym mis Awst 2011, mae’r cyhoeddiad yn un amserol, yn enwedig wrth ystyried bod heddlu o Gymru wedi eu hanfon i helpu ceisio atal y terfysgoedd hyn. Trafodir y mudiadau yn unigol, ac er bod adrannau go helaeth am weithgareddau’r Siartwyr a chefnogwyr Beca, rhoddir sylw digonol i’r terfysgoedd ŷd, rhyfel y degwm, terfysgoedd diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac eraill. Cyflwynir y cefndir a’r ffactorau a ysgogodd y terfysgwyr i ymateb, eu dulliau protestio, prif gymeriadau’r mudiadau, canlyniadau a llwyddiannau’r terfysgoedd. Ceir hen luniau ynghyd â rhai cyfoes ac ambell ffynhonnell gynradd, megis tocynnau tollbyrth, cartŵn yn darlunio helynt casglu’r degwm, a phoster yn cynnig gwobr am ddal dau o brotestwyr Llanidloes. Fel y dywed Bob Morris, ‘mae hanes hir o derfysg ac anhrefn yng Nghymru’, ac yn y gyfrol atyniadol a lliwgar hon cawn gyflwyniad gafaelgar i’r traddodiad hwn. Dangosir pa mor bwysig yw hanes protestiadau a therfysgoedd yng Nghymru, ac felly does dim syndod bod delweddau o frwydrau Merched Beca a Dic Penderyn wedi treiddio drwy ymwybyddiaeth a diwylliant y Cymry.
Share
