Cyngor Llyfrau Cymru
Twll Bach y Clo
Twll Bach y Clo
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel i oedolion am y gwrthdaro rhwng dau deulu wedi i gwpl digartref (a'u plant) feddiannu cartref cwpl arall tra mae'r rheiny ar wyliau yn Awstralia. Mae llawer o hiwmor ac ysgafnder yn y nofel, ond eto mae'n ymdrin â phynciau dyrys fel diweithdra, digartrefedd a chyffuriau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel about friction between two couples after a homeless couple with children occupy the home of a couple who are on holiday in Australia. This lively and humorous story also deals with complex issues such as unemployment, homelessness and drugs.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742906
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742906
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Twll Bach y Clo
- Awdur / Author
- Hughes, Lleucu
- Current Price ex VAT
- £8.95
- Current Price inc VAT
- £8.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-07-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 222 pages
- Size
- 129 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Braf gweld gwaith awduron newydd yn gweld golau dydd ac y mae gan Lleucu Fflur Jones ddoniau creadigol ac ysgrifennu ardderchog. Stori am ddau deulu a geir yn y nofel hon – dau deulu gwahanol iawn ar yr olwg gyntaf ond wrth iddynt ddod i wybod mwy am ei gilydd mae ganddynt lawer yn gyffredin. Nid wyf am ddatgelu gormod am y stori ond yn fras mae Jason, ei gymar a'u plant, yn ddigartref ers iddo golli ei swydd. Nid yw am hawlio budd-dâl ac felly, er mwyn dod o hyd i gartref newydd i'r teulu, mae'n rhaid iddo sgwatio yn nhŷ rhywun arall. Fel mae'n digwydd, mae'r tŷ y dewisodd ei feddiannu, a'r un oedd â ffenest yn agored ar yr union adeg yr oedd Jason yn chwilio, yn eiddo i Dilwyn a Margaret Edwards. Roedden nhw ar y pryd yn ymweld â'u mab yn Awstralia ond bu raid iddynt ddychwelyd yn go sydyn am nad oedd llawer o groeso iddynt yno gan y mab a'i gymar. Wrth i'r ddau deulu ddod wyneb yn wyneb â'i gilydd y dechreua'r ddrama sy'n llawn tyndra a dagrau – ond ceir cyfeillgarwch a llawenydd hefyd. Mae nifer fawr o themâu yn y nofel hon – gormod, efallai – a hithau'n awdures newydd, efallai y dylai fod wedi cadw rhai o'r pynciau at ei chyfrolau nesaf ac yna fe fyddai modd eu trafod yn fanylach. Mae yma gyfeiriad at gam-drin yn y cartref, problemau alcohol a chyffuriau, mabwysiadu plant, dirywiad perthynas, anffyddlondeb a'i ganlyniadau, a phynciau eraill. Mae'r naratif yn y nofel hon yn llifo'n rhwydd. Nid yw byth yn feichus, ac mae'r awdur yn llwyddo i amrywio'r mynegiant o'r person cyntaf i'r trydydd person yn gelfydd iawn. Ysgrifenna hefyd ddeialog yn effeithiol ac y mae'n hawdd uniaethu â'r cymeriadau. Efallai, ar adegau, fod rhywun yn ei chael hi'n anodd dilyn y newid yn agweddau a hwyliau Margaret a Dilwyn ond nid yw hyn yn amharu'n ormodol ar lif y stori. Dyma nofel sy'n hawdd ei darllen. Fe'i darllenais ar ddau eisteddiad ac edrychaf ymlaen, felly, at ddarllen mwy o waith yr awdures ifanc hon o Ben Llŷn.
Share
