Cyngor Llyfrau Cymru
Twm Clwyd: 1. Byd Hollol Anhygoel
Twm Clwyd: 1. Byd Hollol Anhygoel
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Twm Clwyd ydw i. Pan nad ydi llygaid barcud yr athrawon arna i, dwi'n hoffi tynnu lluniau a meddwl am sut i wylltio Delia. Mae'r athrawon yn credu nad ydw i'n dda am ganolbwyntio. Sy ddim yn deg, gan mod i'n rhoi fy holl sylw ar hyn o bryd i ba fisgeden i'w bwyta gynta ... ymmm? Addasiad Cymraeg o The Brilliant World of Tom Gates .
Disgrifiad Saesneg / English Description
This book takes the form of Tom's battered homework diary, crammed with his scribbles and stories and is totally accessible for boys and girls and reluctant readers. Honest, silly, and laugh-out-loud funny, Tom Gates is a superb voice for children of 9+. A Welsh adaptation of The Brilliant World of Tom Gates .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849671569
- Gwales Code
- gwales.com.9781849671569
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Twm Clwyd: 1. Byd Hollol Anhygoel
- Awdur / Author
- Pichon, Liz
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-09-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Williams, Gareth F.
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 256 pages
- Size
- 152 × 192 mm; depth 18 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Tydi bywyd hogyn ddim yn hawdd. Mae angen i chi geisio cyrraedd i’r ysgol yn brydlon. Mae angen cuddio yng nghefn y dosbarth os ydych am ddarllen eich comics gorau. Mae angen osgoi sws gan Mam ar bob cyfri. A mwy na dim, mae angen cofio gwneud eich gwaith cartre. Ond ydi Twm Clwyd yn malio iot? Go brin! Mae dyluniad y llyfr hwn yn helbul llwyr a Twm ydi’r un sy’n tynnu’r nyth cacwn hwnnw am ei ben. Yn llawn o frawddegau sionc, sgetsys sydyn a straeon di-ri, mae Twm yn dod yn gymeriad byw, llawn egni, ac yn fwrlwm o feddyliau – tipyn o lond llaw a dweud y gwir – a dyma sy'n gwneud i chi ddarllen yn eich blaen. Mae Twm yn cyfaddef fod ei ddiddordebau yw gwylltio ei chwaer, sef bod mewn band a bwyta wafferi caramel. Ydi wir, mae Twm yn fachgen drwg ar y naw! Ymysg y lluniau mae llythyrau gan ei rieni a chan yr athrawon, adroddiadau ysgol a darnau o’i lyfrau ysgol, a'r rhain ar brydiau yr un mor ddoniol â’r stori ei hun. Mae’n rhaid i chi ddarllen hyd at y diwedd, hyd at y noson rieni ofnadwy honno, i weld y tameidiau trafferthus yn dod ynghyd. Dyma lyfr rhwydd i’w ddarllen. Mae’n gyfrol a all codi calon unrhyw un ac yn un y gallwch ei chodi a’i gadael dro ar ôl tro. Ie wir, dyma gyfrol ddelfrydol i sbecian arni’n sydyn ... yng nghefn y stafell ddosbarth falle?
Share
