Cyngor Llyfrau Cymru
Welsh for Parents
Welsh for Parents
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfres o 3 CD gyda llyfr o ymarferion. Mae'r cwrs ar gyfer dechreuwyr i helpu rhieni, neiniau a theidiau sydd eisiau siarad ychydig o Gymraeg bob dydd ar yr aelwyd, yn enwedig gyda'r plant. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2011.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A 3 CD course for Welsh language learners with clear, easy-to-use practice book. An ideal course for beginners to learn the language with confidence with your children in the home. Reprint; first published in 2011.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847713599
- Gwales Code
- gwales.com.9781847713599
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Welsh for Parents
- Awdur / Author
- Jones, Lisa
- Current Price ex VAT
- £19.95
- Current Price inc VAT
- £19.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-06-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Other product form
- Media Type (CY)
- Fformat cynnyrch arall
- Pages
- 128 pages
- Size
- 195 × 250 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Saesneg) | EN: Language, Grammar and Dictionaries (in English)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Dysgu Iaith - Arall (yn Saesneg) | EN: Language Teaching - Other (in English)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Arbenigwraig iaith yw Lisa, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg er mwyn rhoi’r iaith yn ôl i’w theulu. Ar ôl dysgu Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent am dair blynedd dechreuodd hi redeg gwersi teilwredig i rieni. Mae Lisa nawr yn cyfuno gwaith achlysurol yn Llundain fel Hyffordwraig Cyswllt i Canning (yn dysgu Saesneg i bobl fusnes) â gwaith gwirfoddol i’w chymuned yn Aberhonddu, ble mae hi’n cynllunio a darparu gwersi Cymraeg sy’n cael eu teilwra ar gyfer rhieni ar y cyd gydag Ysgol y Bannau. Mae Lisa hefyd wedi defynuddio ei phrofiad o ddysgu ieithoedd gwahanol ei hun dros y blynyddoedd i ysgrifennu’r CDs. Astudiodd Lisa Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg yn y coleg ac roedd hi’n byw yn yr Eidal am flwyddyn cyn dechrau dysgu Cymraeg.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Lisa Jones is an applied linguist. Before she had children she worked full-time for Canning, where she designed and taught highly tailored English courses to a wide variety of foreign business people. When her first child was one she moved to Wales, where she started to learn Welsh from scratch. After studying at the University of Glamorgan and teaching for 3 years at Coleg Gwent (helping other learners through the first three Welsh for Adults exams – Mynediad, Sylfaen and Canolradd) she started running classes for parents at her children’s Welsh-speaking primary school in order to raise money for school funds. She now combines occasional work as an Associate Canning Trainer in London with voluntary work for her community. Lisa lives near Brecon.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Meddai Lisa Jones: “Dw i wrth fy modd bod y CDs yn cael eu cyhoeddi. Maen nhw wedi cael eu cynllunio i helpu rhoi hyder i rieni (a’r tad-cus a mam-gus) i siarad Cymraeg gyda’u plant ar yr aelwyd. Mae’r CDs hyn wedi esblygu allan o’r dosbarthiadau a gafodd eu teilwra ar gyfer rhieni, felly maen nhw wedi cael eu hysgrifennu gan rieni sydd, cam wrth gam, yn dod yn deuluoedd dwyieithog. Weithiau mae rhieni yn rhy brysur i ddilyn cwrs yn rheolaidd ac mae pobl yn dysgu ieithoedd ar gyflymderau gwahanol felly mae’n wych y bydd pawb yn gallu ymarfer ar eu cyflymder nhw wrth ymlacio adref.” GWYBODAETH YCHWANEGOL AM DDOSBARTHIADAU LISA Mae Lisa hefyd yn dweud bod cydweithio’n agos iawn gydag ysgolion cynradd ac ysgolion meithrin yn allweddol i ddatblygu defnydd o’r iaith yn y cartref a’r gymdeithas ehangach. Meddai Lisa: “Dw i wedi wir mwynhau’r cyfle i gynllunio a darparu gwersi Cymraeg heb ddefynddio llyfr cwrs. Mae’r gwersi yn datblygu’n gyson yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn yr ysgol, yn yr ysgol feithrin ac yn y gymuned. Mae rhieni yn ymarfer sgyrsiau gyda’r plant a phobl eraill yn y gymuned. Allweddol o bwysig hefyd ydy ymarfer darllen llyfrau i blant a’u llyfrau darllen o’r ysgol. Does dim byd yn well na chyfnewid ystafell ddosbarth gyda’r athrawes ddosbarth derbyn am bnawn, dysgu o’r waliau dosbarth, a dysgu’r iaith fydd angen ar rieni wrth gasglu eu plant y diwrnod hwnnw neu eirfa o’r gwasanaeth nesa neu o’r sioe Nadolig. Mae rhieni’n dysgu yn llawer cynt ers i fi fod ar safle Ysgol y Bannau oherwydd ei bod hi gymaint yn haws i adlewyrchu beth sy’n digwydd bob wythnos. Hefyd, mae’n wych cael y cyfle i drafod gyda’r staff pa eiriau maen nhw’n eu defynddio fel arfer. Felly dwi’n ddiolchgar iawn i Emyr Jones (pennaeth Ysgol y Bannau) a Meriel Gardner (arweinydd Cylch Meithrin Aberhonddu) am eu hamser a’u cefnogaeth. Credaf yn gryf y dylai fod ieithydd ym mhob ysgol gynradd i helpu unrhyw riant sydd eisiau dysgu Cymraeg. Heb os, dyma’r ffordd ymlaen i’r Iaith Gymraeg.”
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
This book and CD pack is specifically designed for parents who have decided to educate their children through the medium of Welsh and who are keen to learn a bit of Welsh themselves so that they can share the language with their children. They contain language parents or grandparents can use with children in the home, and also some language a learner needs in order to gradually speak a bit of Welsh with other parents and teachers out in the community. They are suitable for complete beginners, and they are also aimed at parents or grandparents who have a done a little Welsh before; perhaps many years ago with a family member or at school, or who have done evening classes more recently. Working through the CDs and the written exercises will give you the confidence to use some Welsh as part of your everyday life, both at home with the children, and out there in the community - at parent and toddler group sessions, for example, or with the teachers and parents at playgroup or school.
Share
