Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Wil - Y Poenwr Penigamp — Y Poenwr Penygamp

Wil - Y Poenwr Penigamp — Y Poenwr Penygamp

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Wil yn fachgen sy'n poeni am BOPETH! Nawr mae Alun, dyn gwallgof dieflig, wedi symud i mewn i'r tŷ drws nesaf ac mae ganddo gynllun i ddinistrio'r byd. A fydd Wil yn gallu trechu ei ofnau er mwyn achub y dydd?

Disgrifiad Saesneg / English Description

Will is a boy who worries about EVERYTHING! Now Alun, a diabolical and crazy man, has moved into the house next door, and he has a plan to destroy the world. Can will conquer his fears and save the day?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785622519
Gwales Code
gwales.com.9781785622519
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Wil - Y Poenwr Penigamp — Y Poenwr Penygamp
Sub Title
Y Poenwr Penygamp
Awdur / Author
Pritchett, Georgia
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-06-28
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Atebol
Translator
Alun, Steffan
Darlunydd / Illustrator
Littler, Jamie
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
127 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma i chi un o lyfrau anturus gan Georgia Pritchett, sef Wil y Poenwr Penigamp yn achub y byd! ; addasiad i’r Gymraeg gan Steffan Alun. Mae Wil yn poeni am bopeth drwy gydol yr amser. Un fel yna ydy Wil! Ond yn anffodus i Wil, mae cymydog newydd yn symud i fyw drws nesa iddo, sef Alun, dyn dieflig sydd ag anifail anwes, peiriant hedfan mecanyddol gwych arbennig hudolus, gwn mawr Betingalw a LRch2FL309FERSIWN 8.4 MARC III! Mae ganddo offer dieflig i ddinistrio’r byd ... ac felly mae dyfodol y byd yn dibynnu ar Wil, y poenwr penigamp. Cewch gyfle i gwrdd â ffrind pennaf Wil, sef Stiwart, y pry lludw sy’n achub y dydd, a Dot ei chwaer fach seimllyd sy’n gymeriad a hanner. Mae cychwyn cyffrous i’r llyfr, sy’n cynnwys brawddegau byr er mwyn creu effaith ac yn annog y darllenwyr i ddarllen mwy. Roeddwn wrth fy modd gydag enwau doniol y penodau, er enghraifft 'pennod minws 1 (y dechrau un)'. Mae’r iaith yn loyw gyda nifer o newidiadau ym maint y print, sy’n ei wneud yn hawdd i’w ddarllen. Dyma lyfr hwyliog sy’n addas i blant rhwng 9 ac 11 oed. Cawn lond trol o gymariaethau yn y diwedd, a'm hoff un oedd ‘rhedeg fel morgrugyn â’i ben-ôl ar dân’. Hoffais y ffordd mae Steffan Alun wedi chwarae gyda geiriau i ychwanegu at yr hiwmor. Bydd y lluniau cartwnaidd gwreiddiol yn sicr o ddenu diddordeb, gyda’r tudalennau cefndir tywyll yn effeithiol iawn. Llwyddodd yr awdur i drafod pynciau sy’n creu trafferth i nifer o blant. Mae nifer o strategaethau yma er mwyn i blant ddelio gyda phroblemau sy’n eu poeni. Dyma lyfr campus i ddatblygu sgiliau lles a phersonol plant, a hubu eu hunanhyder. Ydy Wil yn gallu stopio poeni er mwyn achub y byd? Bydd rhaid i chi ddarllen y stori er mwyn cael yr ateb!

View full details