Cyngor Llyfrau Cymru
Williams Pantycelyn
Williams Pantycelyn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif oedd Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd ffordd newydd i ddehongli athrylith emynydd Pantycelyn, gan sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei gyfnod. Rhagymadrodd helaeth gan D. Densil Morgan.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Saunders Lewis's interpretation of the genius of hymnist William Williams Pantycelyn is one of the most debatable and stirring volumes of the 20th century in the Welsh language. It resulted in establishing author Saunders Lewis as the most daring and creative critic of his generation. This reprint is complemented by a substantial introduction by D. Densil Morgan.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781783169627
- Gwales Code
- gwales.com.9781783169627
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Williams Pantycelyn
- Awdur / Author
- Lewis, Saunders
- Current Price ex VAT
- £18.99
- Current Price inc VAT
- £18.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-11-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 336 pages
- Size
- 129 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Rhagymadrodd Newydd gan Densil Morgan Rhagair Pennod I. Yr Estheteg Gymreig Pennod II. Drws y Society Profiad III. Ffordd y Puro: 1744-1752 IV. THeomemphus: Y Rhagymadrodd V. Troedigaeth Llanc VI. Alethius VII. Amor Sponsi VIII. Ffordd yr Uno IX. Arddull X. Rhamantiaeth Mynegai
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Roedd Saunders Lewis yn ddramodydd, bardd, nofelydd, beirniad ac arweinydd gwleidyddol. Mae D. Densil Morgan yn Athro Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyhoeddodd yn helaeth ar hanes crefydd a diwylliant yng Nghymru'r cyfnod modern.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi’r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae’n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Pêr Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.
Share
