Cyngor Llyfrau Cymru
Wps!
Wps!
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol liwgar o gerddi hwyliog a doniol i blant gan Dewi Pws, Bardd Plant Cymru 2010-2011. Casgliad o 17 o gerddi gwreiddiol gan y clown geiriau, wedi'u darlunio gan Eric Heyman. Mae'n wyllt, mae'n wallgo ac mae'n llawn sbort a sbri chwerthin plant!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A colourful book of lively and humorous poems for children by Dewi Pws, the Welsh Children's Laureate for 2010-2011. A collection of 17 original poems by the word clown, illustrated by Eric Heyman. It's wild and mad and full of fun and the sound of laughing children!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848513006
- Gwales Code
- gwales.com.9781848513006
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Wps!
- Awdur / Author
- Morris, Dewi Pws
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-10-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Hayman, Eric
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 144 × 164 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Wps!....Dyna chi Pws! Wps!. Dyna sy’n neidio o bob tudalen yn y gyfrol newydd ddireidus o gerddi i blant gan Dewi Pws a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Y sbort a’r sbri, y chwerthin, y chwarae ar eiriau a’r jôcs – dyna chi Pws i’r dim ac anagram o’i enw ei hun yw teitl y gyfrol liwgar hon a arluniwyd gan Eric Heyman o Gaerdydd. Fel Bardd Plant Cymru 2010-11, cafodd Dewi amser wrth ei fodd gyda phlant o bob oed ar hyd a lled y wlad a chyflwynir Wps! ‘I holl blant Cymru a wnaeth flwyddyn y Bardd Plant yn gymaint o hwyl!’ Er iddo gyhoeddi cerddi, straeon a chaneuon i blant mewn cyfrolau eraill amrywiol, Wps! yw’r unig gyfrol o’i gerddi i blant . Clywir ei lais digri drwy’r deunaw cerdd sy’n amrywio o ran hyd, ffurf a thestun. Ceir cerddi i bobl fel Dat-cu a Fy Nghefnder Dei a hyd yn oed cyfle i ddyfalu Pwy yw Pwy? yn y gyfres o gwpledi e.e. ‘Hedfan yn brysur o flodyn i flodyn, A mwmian canu ‘mond un nodyn’ Pa fath o fyd fyddai, tybed, pe byddai popeth yn ben i waered? ‘Hufen iâ poeth a sglodion blas jam, Babis yn beicio a’u rhieni mewn pram? Wyddech chi fod yna dylwyth teg yn byw yn y goedwig ger Brynhoffnant? Mae’n anodd iawn eu gweld nhw am eu bod yn newid lliw. ‘Yna, os y’ch chi’n ffodus , Cewch eu clywed ambell waith Yn chwarae yn y tonnau I lawr ym mae Tre-saith.’ Mae Dewi wedi ymgartrefu ym mhentref hudolus Tre-saith yng Ngheredigion ac yn rhan o’r gymuned yno ond mae’n hanu’n wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe. Bydd plant yn cael eu denu’n syth gan luniau lliwgar a doniol Eric Heyman o Gaerdydd. O weld llun Superman ar y tŷ bach, y bachgen o ardal y Glais a’r jiráff hirgoes, mae’n amlwg fod hiwmor yr awdur a’r arlunydd yn taro deuddeg. Eric hefyd wnaeth arlunio straeon Dewi Dwpsi a luniwyd gan Dewi a’i wraig Rhiannon. Fel plentyn mawr ei hun, mae Dewi’n deall beth sy’n difyrru plant a gwneud iddyn nhw chwerthin. Rhwng cloriau Wps! fe welir hynny i’r dim!
Share
