Cyngor Llyfrau Cymru
Wythnos yng Nghymru Fydd
Wythnos yng Nghymru Fydd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd o glasur Islwyn Ffowc Elis sy'n sôn am Gymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033. Mae'n dathlu trigain mlynedd ers cyhoeddi'r nofel gyntaf yn 1957. Cynhwysir rhagair newydd gan y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn ogystal â chlawr newydd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yr argraffiad yma yn gyntaf yn 2012.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new edition of Islwyn Ffowc Elis's classic Welsh novel which portrays Wales as it could be in the year 2033. Includes a new foreword by Dylan Iorwerth. Reprint. This edition was first published in 2012.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781843238621
- Gwales Code
- gwales.com.9781843238621
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Wythnos yng Nghymru Fydd
- Awdur / Author
- Elis, Islwyn Ffowc
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-11-13
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 270 pages
- Size
- 128 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Wyddonol (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Science Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Er i’r nofel hon gael ei chyhoeddi gyntaf ym 1957, mae’n sicr yn stori sy’n cydio yn nychymyg y darllenydd o’r dechrau, a hynny hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Gwir yw nodi fod rhai o’r syniadau sydd i fod i ymddangos yn fodern ac anghredadwy yn ymddangos yn henffasiwn erbyn heddiw, ond wrth gofio'r cyfnod yr ysgrifennwyd hi, mae yna rywsut fwy o hud a chlyfrwch yn perthyn i’r stori. Heb ddatgelu gormod, stori am Ifan Powell yn neidio o’r flwyddyn 1956 i’r flwyddyn 2033 ydyw hon, gyda chymorth Dr Heinkel a’r elfen K. Drwy ddefnyddio’r trydydd dimensiwn, â Ifan o Gymru lwfr, Brydeinig, draddodiadol y cyfnod i Gymru Rydd ddelfrydol. Nid oes dim o’i le ar y wlad annibynnol hon, o’r bwyd a’r gerddoriaeth i’r ffyrdd y cosbir troseddwyr. Gyda chymorth teulu Llywarch, caiff Ifan Powell ei hebrwng drwy Gaerdydd a Chymru gyfan i weld ffermydd, chwareli a glofeydd cymunedol a llwyddiannus y wlad. Mae pob golygfa yn odidog ac nid oes brys ar Ifan i ddychwelyd, yn enwedig ar ôl cyfarfod Mair Llywarch. Ond nid yw’r siwrne’n fêl i gyd pan ddaw wyneb yn wyneb ag arweinyddion cas y Crysau Porffor sydd am weld Cymru'n rhan o Brydain unwaith eto. Maent yn benderfynol y bydd Ifan yn eu cynorthwyo i wneud hynny, boed hynny o’i wirfodd neu beidio. Mae’n rhaid i Ifan ddychwelyd i’w oes ei hun yn fuan, er y carai ef aros yn y Gymru Rydd. Wedi ychydig o amser yn ôl yn 1957, penderfyna ei fod eisiau dychwelyd i 2033 er gwaethaf rhybuddion Dr Heinkel am y peryglon. Wrth geisio mynd yn ôl i’r flwyddyn 2033 am yr ail dro, â pethau o chwith i Ifan. Yma gwelwn wrthgyferbyniad llwyr â’r Gymru ddelfrydol, heddychlon a brofodd Ifan ar ei ymweliad cyntaf. Nid Cymru ydyw’r wlad bellach, ond Lloegr Orllewinol. Dyma ddarlun hollol wahanol i’r Gymru Rydd welodd ef gynt; cyferbyniad sy’n ddigon i godi ias. Mae’r iaith Gymraeg wedi marw ac mae Cymru erbyn hyn yn lle erchyll i fyw ynddo gyda chriwiau megis y platoons yn gwneud i’r crysau porffor edrych yn heddychlon. Mae’n amlwg wrth ddarllen y nofel heddiw mai nofel o bropaganda cenedlaetholgar y cyfnod yw hon, ac nid yw Islwyn Ffowc Elis yn ceisio celu hynny. Mae cyflwyniad newydd Dylan Iorwerth yn cyfoethogi’r darlleniad, ac yn amlygu cysyniadau difyr iawn. Dyma nofel a wna i chi grio, chwerthin, gwenu a gobeithio – er nad yw rhai o’r syniadau pellgyrhaeddol yn ymddangos mor amhosib erbyn heddiw.
Share
