Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Dylluan Wen

Y Dylluan Wen

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995 a ddisgrifiwyd fel stori dda, afaelgar wedi ei hadeiladu'n gampus gan lenor sy'n sicr o'i chrefft. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Awst 1995.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The volume which was awarded the Prose Medal at the 1995 National Eisteddfod and which was described as a psychological novel in which the story is gradually and skilfully unfolded. Reprint; first published August 1995.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859022771
Gwales Code
gwales.com.9781859022771
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Dylluan Wen
Awdur / Author
Jones, Angharad
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-09-25
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
124 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel yw hon am ferch sydd yn cyrraedd pentref o’r enw Llan yn ei chlogyn du ar ddiwrnod gwlyb. Daeth yno er mwyn hyfforddi’r ysgol gynradd leol i lwyfannu drama Blodeuwedd . Mae rhyw ddieithrwch rhyfedd yn ei chylch ond mae yna rywbeth cyfarwydd ynglŷn â hi hefyd. Yn wir, mae rhyw ddieithrwch yn nechrau’r nofel hon pan sylweddolwn mai un o’r cymeriadau ydy’r dylluan wen. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng gwynder a düwch, rhwng diniweidrwydd a drygioni, yn brigo i’r wyneb yn aml yng nghorff y nofel. Mae’r plant yn wyliadwrus o Myfi, yn rhedeg oddi wrthi, ond mae’r hen Mrs Rowlands sydd yn gweithio yn y gegin yn synhwyro fod yna ryw gyfrinach ynghlwm wrth hon gyda’i llediaith a’i hacen Americanaidd. O dipyn i beth fe ddatgela’r dylluan wen ei chyfrinach i ni. Mae ymsonau’r dylluan yn synhwyrus ac yn hudol. ‘ Mae hi’n dechrau dadwisgo. A ddylem aros yma ar sil y ffenestr? Oni fyddai’n fwy gweddus i ni droi ein golygon i rywle arall? Gadael llonydd iddi hi Myfi a’i dillad du a’i dillad isaf gwyn? Oni ddylem edrych draw at y mynyddoedd sydd fel hetiau gwrachod dan gylch arian y lloer? ’ Drwy symbolau gwae, deallwn fod yna ddialedd a drygioni yn y gwynt ac mae’r ddrama Blodeuwedd fel cynfas i’r dialedd. Un o’r prif gymeriadau yw Ifor Gruffydd y prifathro, a gofyn ei ferch fach Gwen, ‘ Blodeuwedd, fydd hi’n dylluan am byth? ’ ‘Na’ yw’r ateb a rydd Myfi, ‘ Aros mae hi. Aros am ei chyfle. I ddod yn ôl i’r ddaear fel dynes. Er mwyn dial – dial ar y dewin a greodd hi. ’ Camp Angharad Jones yw neidio o un person i’r llall o bennod i bennod. Try at y presennol yng ngŵydd y ferch fach Gwen a neidia yn ôl i’r gorffennol pan fydd Ifor Gruffydd yn cael ei ddarlunio. Taena Myfi ei hudlath ar Ifor fel Gwydion ar Blodeuwedd gynt a cheir disgrifiad cynnil iawn o’r ddau yn caru. Dywedodd y beirniaid yn eu beirniadaeth pan enillodd hon y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995: ‘ dyma nofel seicolegol . . . stori sy’n peri ichi fod eisiau gwybod beth sydd yn dod nesaf o hyd ac o hyd. A stori fydd yn eich cadw’n rhwym i’ch cadair nes i chi ei rhoi o’ch llaw. ’

View full details