Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Ferch ar y Cei

Y Ferch ar y Cei

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Merch yw'r dditectif hon, yn gysylltiedig â rhaglenni materion cyfoes i gwmni teledu yng Nghaerdydd. Mae cymhlethdod bywydau personol yn cael eu plethu i stori am droseddau difrifol yn y ddinas, ond eto mae llawer o le ynddi ar gyfer hiwmor a dychan fydd yn sicr o ganu clychau ymysg pawb sy'n gyfarwydd â bywyd Cymraeg Caerdydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The heroine is a female detective with connections to a tv current affairs programme in Cardiff. Her complex personal life is weaved into a story about serious offences in the city, with touches of humour and satire to appeal to many who are familiar with the lives of Welsh-speaking communities in Cardiff.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278151
Gwales Code
gwales.com.9781845278151
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Ferch ar y Cei
Awdur / Author
Gerallt, Catrin
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-07-11
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
380 pages
Size
128 × 198 mm; depth 15 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Dyma nofel gyntaf Catrin Gerallt, sy’n enedigol o sir Benfro ac wedi’i magu yng Nghaerdydd. Mae’n gyfarwydd iawn â rhychwant eang o fywyd a hiwmor y ddinas. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4. Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021). Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Bethan Morgan yn ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Er bod cynlluniau i ddatblygu ardal y Cei yn y ddinas yn amheus yn ei golwg, mae’i chynhyrchydd eisiau ongl wahanol ar y stori. Ond wrth ddod i adnabod rhai o drigolion yr ardal, mae Bethan yn cael ei thynnu’n ddyfnach i chwilio am y gwir ar ei liwt ei hun. Yn ogystal â’r gwrthdaro yn y swyddfa, mae’n dipyn o gamp i Bethan jyglo holl beli ei bywyd teuluol: mab yn wynebu arholiadau, merch yn symud o un bwyty i’r llall a gŵr yng nghanol ei affêr ddiweddaraf. Nid yw pethau’n esmwythach iddi pan gaiff gynnig cysur gan Declan, rheolwr bwyty’r Cei ... Cynhelir lansiad y gyfrol yn stafell ddawns y King's Yard, Pontcanna CF11 9DE, nos Wener, Gorffennaf 12fed rhwng 7 a 9 o'r gloch. Ceir sesiwn holi ac ateb gyda Catrin Gerallt ynghyd â darlleniadau gan Hannah Daniel. Croeso cynnes i bawb.

View full details