Cyngor Llyfrau Cymru
Y Ferch ar y Traeth
Y Ferch ar y Traeth
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel ddirgelwch, yn cynnwys elfennau o ramant, hiwmor a chymhlethdodau teuluol. Cafodd y gyntaf yn y gyfres - Y Ferch ar y Cei - dderbyniad da iawn ac mewn blwyddyn pan ataliwyd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llyfr y Mis, Awst 2024). Cyhoeddodd sawl adolygydd mai Y Ferch ar y Cei oedd y 'Daniel Owen' y flwyddyn honno.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A mystery novel, featuring elements of romance, humour and family complexities.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279967
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279967
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Ferch ar y Traeth
- Awdur / Author
- Gerallt, Catrin
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-07-31
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 284 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Dyma ail nofel y newyddiadurwraig Catrin Gerallt. Cafodd ei geni yir Benfro a chafodd ei magu yng Nghaerdydd, lle mae’n byw hyd heddiw. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4. Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021) Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Y Ferch ar y Cei, Gorffennaf 2024
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dynes ganol oed yw Bethan Morgan sy’n mynd drwy gyfnod cythryblus yn y cartref ac yn y gwaith. Mae hi’n ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, ac mae Selwyn, ei bos seimllyd, nawddoglyd yn dipyn o boen. Mae Y Ferch ar y Traeth wedi’i lleoli yng ngwyliau haf 2023, pan fo’r newyddiadurwraig, Bethan Morgan, ar ei ffordd i bentre hudolus Traeth Llyfn yn sir Benfro i weld ei mam ac i chwilio am straeon ar gyfer cyfres nesa’r Byd a’r Betws. Yn anffodus, mae gan ei bòs, Selwyn, drefniadau gwahanol ar ei chyfer ac mae’n ei galw yn ôl i’r swyddfa. Ond mae digon o ddeunydd i gadw Bethan yn brysur yn y Gorllewin – baetwyr moch daear, hwyl y Llew Coch a thai haf, hen sôn am Llion, rebel ifanc hanner ei hoed, sy’n llenwi’r bwlch a adawyd gan ei gŵr anffyddlon. Ond a oes dirgelwch a thywyllwch yn taflu cysgodion dros ei chymar newydd? Adolygiadau (Y Ferch ar y Cei) ‘Hon yw nofel gyntaf Catrin Gerallt. Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ati i ysgrifennu nofel. Mae’n rhaid cael digon o ddychymyg, chwip o stori dda, cymeriadau difyr, a digonedd o stamina. Llwyddodd Catrin Gerallt i gyflawni’r gamp hon drwy gynnal fy niddordeb o’r dechrau i’r diwedd wrth i Bethan Morgan, ei phrif gymeriad, dyrchu’n is ac yn is i isfyd tywyll Caerdydd. Er bod hon yn nofel gyffrous am ddynes eofn sy’n benderfynol o fynd at galon y gwir i fynnu cyfiawnder i drigolion Abertaf, mae hi hefyd yn nofel ddynol am chwalfa deuluol ac effaith hynny ar y rhieni a’r plant. Ond peidied neb â meddwl mai nofel ysgafn am helbulon domestig a throeon trwstan carwriaethol divorcée canol oed yw hon (nid fy mod i’n awgrymu bod hynny’n bwnc anniddorol, noder). Mae hi hefyd yn glamp o nofel dditectif garlamus a hynod ddarllenadwy.’ – Non Mererid Jones, Gwales
Share
